Cynlluniau i ddatblygu felodrom Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ddatblygu un o felodromau concrit awyr agored hynaf Prydain fel canolfan hyfforddi a chystadlu rhanbarthol yng ngorllewin Cymru.
Cafodd felodrom Caerfyrddin ei agor yn 1900, ac mae'n 405 metr o hyd.
Mae'r trac yn rhan o Barc Fictorianaidd y dref, sydd hefyd yn cynnwys eisteddle a llwyfan gerddoriaeth.
Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr wedi cytuno i gyfrannu £286,000 tuag at y gost o adnewyddu'r trac ac fe fydd £296,000 hefyd yn dod o gronfeydd ariannol Chwaraeon Cymru.
'Cynyddu mewn poblogrwydd'
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, aelod o'r Bwrdd Gweithredol, bod seiclo "yn cynyddu mewn poblogrwydd" a bod y cynllun yn "haeddu cefnogaeth".
Fe fydd yr arian yn dod o gronfeydd cyfalaf y cyngor Sir.
Y bwriad yw gwella gwyneb y trac, a chodi ffensys diogelwch, a'r disgwyl yw y bydd y cyfan yn costio tua £600,000.
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin wedi clustnodi £25,000 ar gyfer y prosiect flwyddyn nesaf, yn ogystal â £10,000 ar gyfer gwaith cychwynnol.
Mae'r cyngor yn gobeithio creu adnodd seiclo o'r radd flaenaf, er mwyn denu mwy o ymwelwyr i Gaerfyrddin a manteisio ar boblogrwydd seiclo yn sgil llwyddiannau seiclwyr o Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd a'r Tour de France.