Deg i'r Dolig!

  • Cyhoeddwyd
Huw Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Corn Radio Cymru, Huw Stephens

A hithau'n gyfnod y Nadolig rydym ninnau yn Cymru Fyw hefyd wedi mynd i hwyl yr ŵyl, a phwy well i'n helpu ni i wneud hynny ond Huw Stephens, cyflwynydd Radio Cymru a Radio 1. Mae o wedi dewis detholiad o'i hoff ganeuon Nadoligaidd Cymraeg

Meddai Huw: "Does dim byd gwell amser y Nadolig na chlywed ambell i glasur Nadoligaidd coll. Mae llu ohonyn nhw yn y Gymraeg, a dyma ddeg o fy ffefrynnau"

Mae'r rhestr yn un amrywiol iawn ac yn cynnwys yr hen a'r newydd - ydych chi'n cytuno â detholiad Huw?

1. Delwyn Siôn - Un Seren "Yn yr amser pan nad oedd yn canu gyda'r chwadods, dyma un gân Nadolig arbennig i ddathlu gwir ystyr y Dolig, ac mae llais swynol Delwyn yn arbennig."

2. Meic Stevens - Noson Oer Nadolig "Clasur Dolig, mae rhywbeth trist a melancolig yma, ond prydferth hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Meic Stevens -Noson Oer Nadolig "melancolic ond prydferth"

3. Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig "Ffilm o'r 80au ar S4C sydd yn glasur! Meic Povey oedd yn chware Mordecai, y Dyn oedd Eisiau Dwyn y Nadolig. Mae'r caneuon i gyd yn arbennig o gawslyd a gwych."

4. Tony ac Aloma - Clychau Nadolig "Does dim byd gwell na chlywed Tony ac Aloma yn canu am un o adegau mwyaf hyfryd y flwyddyn."

5. Gareth Bonello / Gentle Good - Cân y Fari "Cwpl o flynydde' nôl fe gyhoeddodd Gareth gyhoeddi EP am ddim ar y we o'r enw Plygeiniwch. Mae hon o rai blynyddoedd yn ôl, un o'r caneuon traddodiadol mae Gareth wedi ail-recordio i gynulleidfa newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bonello yn cael ysbrydoliaeth gan ganeuon traddodiadol Y Plygain

6. Datblygu - Gai Fod Siôn Corn "Oddi ar eu casét Nadolig chwedlonol ar label Ankst."

7. Anrhefn - Stwffiwch y Dolig Nid y Twrci "Rhys Mwyn a'r band yn canu am greulondeb i'r twrcis adeg yma'r flwyddyn."

8. Al Lewis - Darlun "Mae Al yn hoff o ganeuon Dolig, ac fe gyhoeddodd 'A Child's Christmas in Wales' eleni."

9. Bob Delyn - Nadolig Llawen Gwyn "Band gwerin gwych wnaeth hefyd gyhoeddi EP o ganeuon Nadolig arbennig."

10. Ryan - Nadolig Pwy a Ŵyr "Roedd rhaid cynnwys hon!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae clasur Ryan yn dal ymhlith y ffefrynnau pob Nadolig

Diolch i Huw am lunio'r rhestr, gan obeithio y bydd y caneuon yn eich helpu chi i fwynhau'r Nadolig hwn.

Bydd Huw yn chwarae detholiad o'i hoff ganeuon Nadoligaidd ar C2, BBC Radio Cymru, Dydd Nadolig, 20:00