Taro nodyn uchel yn Eton

  • Cyhoeddwyd
gareth eilir

Beth sy'n gyffredin rhwng 19 o Brif Weinidogion y DU a cherddor o Feirionnydd?

Mae'r pianydd adnabyddus o Ddyffryn Ardudwy ynghyd â gwladweinwyr blaenllaw fel Anthony Eden, Harold Macmillan a'r Prif Weinidog presennol David Cameron yn gyfarwydd iawn â chynteddau un o ysgolion bonedd amlyca'r byd - Eton College.

Mae Gareth Eilir Owen yn athro yno ers rhai blynyddoedd, ac yn ddiweddar cafodd ei ddyrchafu i fod yn Bennaeth ar yr Adran Biano yn yr ysgol.

Mae'n trafod ei yrfa ddisglair gyda Beti George yn Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru ar 10 Ebrill.

Bu'n egluro wrth Cymru Fyw sut y daeth bachgen o gefn gwlad Meirionnydd i weithio yn Eton.

Cerddoriaeth ar yr aelwyd

Roedd cerddoriaeth o fy nghwmpas yn y cartref, yr Ysgol Gynradd a'r Ysgol Sul. Ro'n i'n ffodus o gael athrawon medrus o'r dechrau ac ar ôl cyfnod yn Ysgol Ardudwy, Harlech, mi ge's i fy nerbyn i Ysgol Gerdd Chetham's ym Manceinion. Ro'n i hefyd yn cystadlu mewn eisteddfodau a chystadlaethau eraill megis Cerddor Ifanc Texaco a Cherddor Ifanc y BBC.

Yna fe enillais ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain. Yn ystod y chwe blynedd ro'n i yno mi fuais i yn perfformio fel unawdydd piano a cherddor siambr yn fyd eang. Ce's i gyfle hefyd i dreulio blwyddyn yn Banff, Canada, lle ro'n i yn perfformio a theithio efo nifer o offerynnwyr talentog ac enwog.

Ers hynny, dwi wedi cyfuno dysgu'r piano yng Ngholegau Eton a'r Guildhall yn ogystâl â pherfformio yn rheolaidd fel unawdydd.

Traddodiad a safonau

Dwi wedi bod yng Ngholeg Eton ers 2010 a mi wnes i deimlo yn gyfforddus yno yn syth. Roedd yr athrawon a'r bechgyn yn hynod o gyfeillgar a chroesawgar, felly dwi wedi mwynhau fy amser yno o'r diwrnod cyntaf.

Mae ethos gefnogol a phroffesiynol y Coleg yn gosod sylfaen ddelfrydol a buddiol i blant a cherddorion ifanc i ffynnu yn eu gwahanol feysydd. Felly, dwi'n teimlo yn ffodus dros ben i gael fy nyrchafu yn Bennaeth yr Adran Piano.

Mae'r Coleg yn ymfalchïo yn nhraddodiadau'r gorffennol ers ei sefydlu gan Harri VI yn 1440. Mae'n bosib dweud fod Eton wedi goroesi oherwydd nifer o'r traddodiadau hyn.

Dwi ddim yn meddwl bod rhain yn diffinio gwerthoedd y Coleg yn llwyr. Mae'r ffocws ar ragoriaeth a gweledigaeth gref yn agor drysau i bartneriaethau gyda nifer o wahanol sefydliadau a rhoi cyfloedd i'r rhai sy'n haeddu llwyddo.

Oni bai am y wisg ffurfiol a'r canu corawl cyfoethog, mae llu o'r traddodiadau wedi diflannu am nad oes lle iddyn nhw yn yr oes fodern. Cafodd fagging (lle mae'r hogiau ifanc yn weision i'r myfyrwyr hyn) ei ddileu flynyddoedd lawer yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cotiau hir yn un o draddodiadau Eton sy'n parhau hyd heddiw

300 o wersi'r wythnos

Fel Pennaeth yr Adran Biano, rydw i yn gyfrifol am 22 o athrawon rhan amser sydd yn dysgu dros 300 o wersi yr wythnos. Mae tair o neuaddau cyngerdd o fewn y Coleg a bydd rhai o fy nyletswyddau yn cynnwys trefnu pianyddion i gymryd rhan mewn cyngherddau a chyfeilio i offerynnwyr.

Byddaf yn goruchwylio tair cystadleuaeth piano yn ogystal â threfnu dosbarthiadau meistr a chyngherddau y tu allan i'r Coleg. Rwyf hefyd yn gyfrifol am ddysgu fy nisgyblion fy hun a maen nhw yn amrywio mewn oedran a safon.

Mae'r rhieni yn gefnogol i ffyniant a datblygiad addysgol eu plant gan ddangos gwir ddiddordeb yng nghynnydd eu meibion fel cerddorion a phianyddion.

Mae gwaith caled, llwyddiant a datblygiad yr unigolyn yn ganolog i weledigaeth y Coleg. Er bod ffioedd ariannol i fynychu Eton yn uchel dros ben, mae ysgoloriaethau academaidd (yn dilyn prawf môdd ariannol y rhieni) gwerth £6.5 miliwn ar gael ac ar hyn o bryd mae 74 o'r disgyblion yn mynychu'r Coleg yn rhad ac am ddim. Mae 125 o ysgolorion cerdd eraill a nifer yn cael gostyngiadau helaeth oddi ar y ffioedd.

Mae Eton yn noddi Ysgol Breswyl Rydd, Holyport College ac mae nifer o bartneriaethau ganddynt yn y gymuned leol ac mewn ardaloedd eraill. Rwy'n edmygu'r gwaith mae'r Coleg yn ei wneud yn y gymuned ac yn teimlo'n freintiedig o gael bod yn rhan fechan o'r weledigaeth yma.

Dysgu a pherfformio

Yn ogystâl â dysgu, mi fyddwn i'n hoffi cael y cyfle i barhau i ddatblygu gyrfa fel pianydd gan berfformio'n rheolaidd yn ystod y cyfnod yma o newid swydd. Tydi gwaith cerddor byth yn gytbwys ond dwi'n gobeithio y bydd posib gwneud hyn drwy gynnal cyngherddau yn ystod gwyliau'r ysgol.

Dwi'n edrych 'mlaen at y sialens newydd a chyffrous yma ac at weithio gyda ffrindiau a chyd-athrawon yn yr Ysgol Gerdd. Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd erioed ac felly dwi'n gobeithio am flynyddoedd hapus a dedwydd yn gweithio yn Eton, Y Guildhall ac wrth y piano yn perfformio.