Beirniadu cynllun lôn fysiau yng ngogledd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Caerphilly RoadFfynhonnell y llun, Heather Ward

Mae trigolion wedi mynegi pryder am gynlluniau i greu lôn fysiau ar ffordd brysur yng ngogledd Caerdydd.

Mae pobl sy'n byw ar Hoel Caerffili wedi beirniadu bwriad y cyngor i dorri 11 o goed ar gyfer cynllun mae'n nhw'n honni allai waethygu traffig.

Bydd y gwaith yn dechrau ar y ffordd ar 11 Ionawr ac mae disgwyl iddi gymryd chwe mis i'w gwblhau.

Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd y cyngor bod clefyd ar y coed ond y bydd rhai newydd yn cael eu plannu yn eu lle, ac na fyddai amhariad mawr ar draffig.

Dywedodd Helen Ward, sydd wedi bod yn byw ar y ffordd am dros 20 mlynedd, bod y cynllun yn "wastraff arian" am mai dim ond rhan fach o'r ffordd fydd yn cael ei newid yn lôn fysiau.

"Pe bai'r lôn fysiau yn cael ei chyflwyno yr holl ffordd i lawr yr hewl byddai'n grêt, ond dyw hi ddim," meddai.

Ffynhonnell y llun, Heather Ward