Dros 500 achos o oedi i'r gwasanaeth tân mewn 3 blynedd

  • Cyhoeddwyd
Oedi wrth ddiffodd tanauFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd

Mae diffoddwyr tân yng Nghymru wedi wynebu dros 500 achos o oedi cyn gallu dechrau diffodd tanau o fewn y tair blynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru welodd y nifer mwyaf o achosion - 460 ers dechrau Ionawr 2013.

Yn y cyfnod hwnnw, fe ddeliodd y gwasanaeth gyda dros 4,000 o danau.

Dywedodd un dyn tân wrth y BBC fod oedi yn "ddigwyddiad dyddiol, weithiau'n digwydd nifer o weithiau'r un diwrnod."

Wynebodd ymladdwyr tân y Gorllewin a'r Ganolbarth oedi 11 o weithiau mewn tair blynedd, a'r Gogledd 57 o weithiau.

Y prif reswm dros yr oedi oedd trafferthion wrth geisio cyrraedd safleoedd. Hynny oedd i gyfri am 364 o'r achosion, tra bod 114 o achosion oherwydd nad oedd y gwasanaeth yn gallu dod o hyd i'r tân.

Cafodd ymladdwyr tân eu hanfon i'r cyfeiriad anghywir 47 o weithiau, tra bo'r gwasanaeth wedi ei ddal yn ôl dair gwaith oherwydd aflonyddwch sifil.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân y gallai'r oedi roi bywydau mewn perygl.

Ond welodd Sir Gaerfyrddin ddim un achos o oedi yn ystod yr un cyfnod, a dim on un gafodd ei gofnodi yng Ngheredigion a Sir Benfro.