Camddefnyddio sylweddau: Datgelu cynllun tair blynedd

  • Cyhoeddwyd
CyffuriauFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae cynllun tair blynedd newydd i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau wedi ei ddatgelu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y llywodraeth, y Gwasanaeth Iechyd a phartneriaid eraill yn delio ag effaith camddefnyddio ledled Cymru rhwng 2016-2018, gan gynnwys parhau i gwtogi ar nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, fe wnaeth un o bob 40 o oedolion ifanc 16 i 24 oed gymryd sylwedd seicoweithredol y llynedd, sy'n 174,000 o bobl ifanc.

Fe wnaeth 279,000 o oedolion rhwng 16 a 59 oed gymryd sylwedd seicoweithredol yn yr un cyfnod.

Mae'r cynllun hefyd yn nodi mesurau i leihau'r stigma i'r rhai sy'n chwilio am gymorth.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth 174,000 o bobl ifanc Cymru gymryd sylwedd seicoweithredol y llynedd

Mae'r ffigyrau'n nodi y bu gostyngiad o 30% mewn marwolaethau yn gysylltiedig â chymryd cyffuriau ers 2010 - sy'n groes i'r duedd ar draws y DU.

Bu gostyngiad hefyd mewn marwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol.

'Problem o bwys'

Bydd y cynllun yn destun ymgynghoriad 12 wythnos, fydd yn dod i ben ar 30 Mawrth.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r camddefnydd eang o alcohol, cyffuriau a sylweddau seicoweithredol eraill yn broblemau iechyd a chymdeithasol o bwys sy'n effeithio ar fywyd llawer.

"Mae modd atal a rheoli effaith gymdeithasol cyffuriau ac alcohol yn ogystal â'u heffaith ar iechyd gyda'r ymyriadau iawn o ran addysg a thriniaeth."

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n buddsoddi bron i £50m mewn rhaglenni i fynd i'r afael â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol dros y flwyddyn 2015/16.