HSBC i gau dwy gangen yn sir Wrecsam ym mis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi codi yn y gogledd-ddwyrain yn dilyn cyhoeddiad y bydd HSBC yn cau dwy gangen yn sir Wrecsam.
Bydd canghenau HSBC yn cau yn Rhiwabon a'r Waun ym mis Ebrill, ac bydd hyn yn golygu taith i Wrecsam i rai cwsmeriaid fydd angen defnyddio gwasanaethau'r banc dros y cownter.
Mae aelod seneddol De Clwyd, Susan Elan Jones, wedi beirniadu'r cyhoeddiad, gan ddweud bod "pobl o bob oed" yn dibynnu ar y canghenau.
Dywed HSBC bod defnydd y ddwy gangen wedi "gostwng yn sylweddol".
Bydd y banc yn ysgrifennu at gwsmeriaid ar 11 Ionawr yn eu cynghori am y newidiadau, a bydd staff y ddwy gangen yn cael eu hail-leoli i ganghenau eraill.
Fe wnaeth Ms Jones bwysleisio bod HSBC wedi cau canghenau mewn pentrefi a threfi eraill eisoes, yn cynnwys Llangollen, Corwen, Cefn a Rhosllannerchrugog - ac fe ddywedodd y byddai'n codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC: "Yn anffodus, gyda chynnydd yn y defnydd o fancio arlein a dros y ffôn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r defnydd o fanciau Rhiwabon a'r Waun wedi disgyn yn sylweddol ac rydym wedi gwneud penderfyniad anodd i'w cau."
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd banc y Natwest ei fod yn cau 11 o ganghenau ar hyd y gogledd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2015