Cynllun i godi treth Cyngor Sir Penfro o £40 y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
treth

Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi argymell codi treth cyngor o 77c yr wythnos ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa'.

Bydd y cynnydd o 5% yn golygu dros £40 yn ychwanegol ar gyfartaledd i eiddo Band D mewn 12 mis gan fynd a'r swm i £841.10.

Er y codiad, Sir Benfro sydd gyda'r dreth cyngor isaf yng Nghymru.

Cafodd y cynnydd ei gymeradwyo mewn cyfarfod o'r cabinet y bore 'ma a oedd yn ystyried cyllideb ddrafft yr awdurdod ar gyfer 2016/2017.

Bydd y cynnig yn mynd ger bron y cyngor yn llawn ym mis Mawrth.

Llai o arian

Bydd gan Gyngor Penfro £16.3 miliwn yn llai y flwyddyn nesa', ond mae cyllideb ysgolion a gwasanaethau gofal am gael eu hamddiffyn.

Mewn adroddiad i'r cabinet, dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Jon Haswell, bod y gyllideb wedi ei llunio yn dilyn tri setliad anoddaf yr awdurdod gan Lywodraeth Cymru ers 1996.

"Roedd y rhagdybiaeth gafodd eu wneud yng nghynllun ariannol tymor canol 2015-2016 i 2017-2018, a gymeradwywyd gan y cyngor ar 5 Mawrth 2015, wedi ei ddilyn gan gynnydd sylweddol mewn tâl, pris a phwysau demograffeg yn ogystal â beichiau ychwanegol sydd heb eu cyllido, fel safonau'r iaith Gymraeg," meddai.

'Derbyniol'

Mae arweinydd Cyngor Sir Benfro yn cydnabod nad oes croeso i gynnydd yn nhreth cyngor.

Fodd bynnag, dywedodd y Cynghorydd Jamie Adams fod y broses o ymgynghori wedi dangos mai dyna un o'r ffyrdd mwyaf derbyniol o ddod ag arian ychwanegol i'r coffrau.