£4.2m yn fwy i gynlluniau llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant wedi cyhoeddi y bydd 'na £4.2 miliwn yn rhagor ar gyfer dwy gymuned sydd wedi'u taro gan lifogydd.
Bydd yr arian ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 er mwyn cwblhau cynlluniau amddiffynfeydd yn Nhrebefered, Bro Morgannwg, a Phorthcawl.
Mae hyn yn ogystal i'r £3 miliwn a gafodd ei gyhoeddi fis Rhagfyr diwetha' ar gyfer gwaith yn Llanelwy. Bydd y gwaith hwnnw hefyd yn cychwyn yn y flwyddyn ariannol newydd.
Mae'r cynllun £1.96 miliwn yn Nhrebefered yn cynnwys ardal sydd wedi gorlifo yn rheolaidd yn y blynyddoedd diwetha'. Y gobaith ydy lleihau'r risg i 17 o gartrefi a busnesau, ynghyd â gwelliannau i gyfleusterau'r ardal. Bydd y cynllun yn cael ei adeiladu ochr yn ochr â phrosiect sydd eisoes wedi'i gyflwyno yn Llanmaes.
Ym Mhorthcawl, bydd £2.25 miliwn yn cael ei wario ar welliannau i amddiffynfeydd arfordirol ger Heol y Traeth. Mae'r amddiffynfeydd presennol yn hen erbyn hyn, a petai nhw'n methu, byddai'n peryglu dros 260 o adeiladau ar hyd glan y môr ac yng nghanol y dre'.
'Blaenoriaeth'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bwriad y gwaith fydd lleihau effeithiau llifogydd arfordirol a newid hinsawdd, yn ogystal â rhoi gwell mynediad a gwedd i ardal sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr.
Meddai'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant: "Rydyn ni wedi gweld y mis Rhagfyr gwlypa' ar gofnod a llifogydd ar draws Cymru. Dyma pam fod rheolaeth llifogydd a risg arfordirol yn parhau'n flaenoriaeth. Ar ddiwedd mis Rhagfyr fe wnes i addo £1 miliwn i awdurdodau lleol i gynnal gwaith atgyweirio ar frys i gynlluniau afonydd a systemau draeniad. Daeth hwb arall yr wythnos ddiwetha' wrth i'r Prif Weinidog gyhoeddi £2.3 miliwn yn ychwanegol ar gyfer rheoli risg llifogydd.
Fe ddiolchodd y Gweinidog i'r rhai hynny oedd wedi ymateb ac wedi helpu'n dilyn y llifogydd diweddar, sydd wedi "gweithio'n ddiflino ers Dydd San Steffan ac sy'n parhau i wneud hynny".
Ychwanegodd: "Mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru'n parhau i asesu'r difrod a'r effeithiau.
"Ond rydyn ni eisoes yn ymwybodol o lifogydd yn ardaloedd Gwynedd, Môn, Caerffili a Sir Benfro. Yr amcangyfri' ar hyn o bryd yw bod 150 o adeiladau ar draws Cymru wedi diodde' yn sgil llifogydd yn ystod mis Rhagfyr, gyda nifer yn rhagor wedi cael dihangfa lwcus."