Yr ifanc a ŵyr? Geraint a Mari Lovgreen

  • Cyhoeddwyd
Geraint a Mari Lovrgeen

Mewn cyfres newydd o erthyglau teuluol, y canwr, cyfansoddwr a'r limrigwr heb ei ail Geraint Lovgreen a'i ferch Mari, cyflwynydd teledu, awdur ac Instagramiwr penigamp, yw'r cyntaf i rannu cyfrinachau eu perthynas.

Daw Geraint, 60, yn wreiddiol o ardal Wrecsam ond cafodd Mari, 32, a'i dau frawd, Gwilym a Gruff, eu magu yng Nghaernarfon lle mae ei thad a'i mam, Eleri, a'i brodyr yn dal i fyw.

Mae Mari erbyn hyn yn byw ar fferm yn Llanerfyl, Powys, gyda'i gŵr a'u merch fach.

Mari Lovgreen - "'Da ni'n dau yn debyg"

Dydi perthynas dad a fi heb newid lot dros y blynyddoedd. 'Da ni unai'n ffraeo fel brawd a chwaer neu'n cael lot o hwyl.

Mae yna lot o betha'n debyg rhyngon ni. 'Da ni'n rhannu'r un pen-blwydd i ddechrau, sy' wastad wedi g'neud i fi deimlo ein bod ni mewn rhyw glwb arbennig - yr Awst 25wyr.

Mi rydan ni'n dau'n reit sensitif ac ysbrydol yn ein ffordd felly dwi wrth fy modd yn trafod pob math o bethau efo Dad.

Mi fyddai'n mwydro'i ben o'n reit aml. Weithia' mae'n rhaid iddo fo ddeud wrtha i "Sori, fedrai'm siarad rŵan Mar, ma' gen i waith i neud". Ond fyddai'n ei ddal o'n chwara' Word Games efo Dyl Mei ar y cyfrifiadur bum munud wedyn.

Gwylltio

'Da ni'n dau hefyd yn gallu gwylltio'n reit hawdd.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef, do'n i ddim yn teenager oedd yn neis iawn efo'i rhieni. Dechreuodd Dad fy ngalw'n Mari Enfield ar ôl y cymeriad afiach o sulky hwnnw gan Harry Enfield - Kevin.

Dwi'n cofio gwylltio Dad gymaint unwaith 'nath o ddechra' rhedeg ar fy ôl i fyny'r grisia; yn lwcus i fi, dydi o ddim yn ffit iawn!

A'th o a fi i'r V Festival pan o'n i tua 13 oed. Ges i weld bandiau fel y Stereophonics, Catatonia ac All Saints yn fyw mewn awyrgylch anhygoel. Ro'n i'n teimlo fod gen i Dad cŵl iawn.

Mi nath Dad hefyd brynu sesiwn recordio i fi ar fy mhen-blwydd yn 18. Roedd gen i beiriant carioci yn y llofft, ac o'n i'n arfer agor y ffenest i floeddio canu i'r stryd - fy nghynulleidfa!

Mae gen i gywilydd deud mai'r gân 'nes i ddewis ei recordio oedd 'Don't Let Go' gan En Vogue. Dwi ddim yn meddwl fod Dad yn meddwl lot o'r dewis yna.

'Merch Geraint Lovgreen 'di hi'

Disgrifiad o’r llun,

Mari yn Eisteddfod Meifod 2015, yr ardal sy'n gartref iddi bellach

'Nes i ddim tyfu fyny yn ymwybodol fod Dad yn adnabyddus achos doedd plant Ysgol Syr Hugh Caernarfon ddim yn dilyn pethau Cymraeg bryd hynny. Mond ar ôl mynd i'r coleg yn Aberystwyth nes i glywed rywun yn deud "merch Geraint Lovgreen 'di hi" am y tro cyntaf.

Dipyn o flynyddoedd yn ddiweddarach, a Dad weithiau'n cael ei adnabod fel tad Mari Lovgreen, o'dd rhaid i fi chwerthin pan wnaeth y ddau ohonan ni gyfraniad byr i'r un rhaglen deledu. Ges i fwy o bres na Dad!

Dwi'n teimlo'n ofnadwy o falch ohono bob tro dwi'n ei wylio'n perfformio - mae ganddo'r ddawn o ddiddanu cynulleidfa efo'i ganeuon ysgafn a'r rhai mwy difrifol.

Hwyl

Mae o wastad wedi pwysleisio pa mor bwysig bod yn chi'ch hun, a mae honno wedi bod yn wers werthfawr iawn. Dwi a fy mrodyr hefyd wedi cael ein magu i fod yn gwrtais, i barchu eraill, ac yn bwysicach na dim efallai - i gael gymaint o hwyl a fedra ni!

Mae symud i ffwrdd o Gaernarfon i fyw yng nghanol y wlad ar fferm yn Llanerfyl wedi gneud i fi deimlo'n nes at fy nheulu achos dwi'n ei gwerthfawrogi nhw'n fwy ac yn edrych mlaen gymaint at ei gweld nhw bob amser.

Ma'n bwysig gneud amser i hongian efo'r rheini sy'n agos atoch chi, heb ffôns a cyfrifiaduron a theledai yn dwyn y sylw. Dwi isho trio gneud mwy o hyn yn y dyfodol - felly Dad, ffôn off - 'da ni'n mynd i'r Alex am dro!

Geraint Lovgreen - "Be 'dach chi'n weld ydi be 'dach chi'n gael"

Cafodd Mari ei geni ar fy mhen-blwydd, yn ail o dri o blant, fel fi. Mi oedd hynny'n brofiad eitha' sbesial, a 'dan ni'n dal i gyfeirio aton ni'n hunain fel yr Awst 25wyr.

Roedd hi'n blentyn bach eitha' swil, ond roedd yr awydd i berfformio yn amlwg unwaith y byddai rhywun yn troi camera fideo ymlaen!

Ers yn ifanc mae hi wedi bod yn hoff iawn o gerddoriaeth ac mae hynny'n rhywbeth ryden ni'n dau wedi'i rannu drwy'r blynyddoedd.

Ond doedd Geraint Lovgreen a'r Enw Da ddim yn cŵl iawn yn ei llygaid hi pan oedd hi yn ei harddegau, felly mi wrthododd y cynnig i ganu llais cefndir ar "Babi tyrd i mewn o'r glaw". Dwi'n hoffi meddwl ei bod hi'n difaru erbyn hyn mai llais ei brawd iau Gruff sydd i'w glywed ar honno.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Lovgreen yn dal i berfformio ledled Cymru

Siom Siôn Corn

Efo'i gwallt coch roedd hi'n gallu mynd yn dân gwyllt rhyngon ni yn y blynyddoedd arddegol 'na, ond eto ryden ni'n reit debyg i'n gilydd yn y bôn a fyddai dim un ffrae yn para'n hir.

Mae hi'n ferch onest iawn. Be 'dach chi'n weld ydi be 'dach chi'n gael efo Mari. Ac mae hi'n tynnu ar ôl ei mam yn y ffordd y mae hi'n driw iawn, iawn i'w ffrindiau. Ac yn cael ei siomi fwy wedyn pan gaiff ei gadael i lawr.

Un o'r pethau wna'i byth ddod drosto yn iawn oedd ei siom ynof fi wedi imi orfod cyfaddef nad oeddwn wedi bod yn hollol strêt efo hi am fodolaeth Siôn Corn, a hithau wedi bod yn rhedeg ymgyrch yn erbyn yr anghredinwyr yn Ysgol y Gelli, Caernarfon.

'Gwraig ffarm'

Er ei bod hi wedi symud i ffwrdd, dwi'n teimlo ein bod ni'n dal yr un mor agos os nad yn agosach at ein gilydd.

Dwi'n ei hedmygu'n fawr am y ffordd y mae hi wedi cymryd at fywyd gwraig ffarm yng nghanol y wlad, a hithau'n gymaint o 'hogan dre'. Ac mae'n gyd-ddigwyddiad braf mai yng nghynefin ei thaid ym Maldwyn y mae hi wedi ymgartrefu, heb fod ymhell o 'nghynefin innau.

Fel fi, mae Mari'n ifanc ei ffordd mewn un ffordd ond, diolch i'w mam, mae hi'n aeddfed iawn mewn ffordd arall.

Dwi'n falch iawn ohoni ac o bopeth mae hi wedi'i gyflawni, ac yn falch iawn ein bod ni'n ffrindiau da yn ogystal â thad a merch.

Hefyd gan y BBC