Ysgol Gymraeg newydd i Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Tasker
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol, roedd y cyngor eisiau adeiladu'r ysgol Gymraeg newydd ar safle Ysgol Tasker Milward

Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn y sir.

Bydd yr ysgol newydd yn Hwlffordd ar gyfer disgyblion 3-16 oed.

Does dim penderfyniad ar hyd o bryd ble'n union fydd yr ysgol yn cael ei lleoli.

Dywedodd y Cynghorydd David Lloyd o Dyddewi ei bod hi'n "ddiwrnod pwysig i'r iaith Gymraeg" yn y sir.

Trafodaethau

Mae trafodaethau'n parhau rhwng y cyngor ac dwy ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg Hwlffordd er mwyn dod o hyd i safle i'r ysgol Gymraeg newydd.

Yn wreiddiol, roedd y cyngor wedi bwriadu uno Ysgol Syr Thomas Picton ag Ysgol Tasker Milward, gan ac adeiladu'r ysgol cyfrwng Cymraeg ar safle Ysgol Tasker Milward.

Ond fe wnaeth yr ymddiriedolaeth sy'n berchen ar safle Tasker Milward wrthod rhyddhau'r tir, a dywedodd y Cyngor eu bod wedi penderfynu chwilio am safle arall.

Ymgynghoriad

Roedd y cyngor eisioes wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn y dref.

Argymhelliad yr ymgynghoriad oedd i adeiladu ysgol ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn Hwlffordd, gyda disgyblion hŷn yn cwblhau eu haddysg yn Ysgol Y Preseli, Crymych.

Dywed adroddiad gan swyddogion addysg fod Ysgol Gymraeg Glan Cleddau yn Hwlffordd yn orlawn, a bod galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg gan rieni yng nghanolbarth, gogledd-orllewin a de'r sir.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Orielton yn un o'r rhai fydd yn cau

Hefyd yn y cyfarfod arbennig fore Iau, fe benderfynodd y cyngor gau tair ysgol gynradd yn y sir.

Fe wnaeth yr aelodau gefnogi argymhelliad i gau ysgolion Angl, Orielton ac Ystangbwll oherwydd lleihad yn niferoedd y disgyblion.

Yn ôl ffigyrau'r cyngor, mae'r gost o addysgu plant yn yr ysgolion yma rhwng 24-65% yn fwy na'r cyfartaledd yn yr ardal.

Mae'n debyg y bydd ysgol newydd i Benrhyn Angl yn cael ei hadeiladu yn Hundleton.