Cenhadon arloesol Cymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd yna 'chydig o flas Cymreig i gynhadledd Gristnogol enfawr sy'n cael ei chynnal yn India ddechrau Mawrth gan y bydd rhai o aelodau Côr CF1 o Gaerdydd yn perfformio yno.

Mae'r digwyddiad yn Mizoram yn cael ei drefnu gan Kristian Thalai Pâwl, sef cymdeithas Gristnogol ifanc, sydd â miloedd o aelodau o fewn a thu allan i'r dalaith yng ngogledd ddwyrain y wlad.

Ffynhonnell y llun, Aneurin Owen

Mae Cristnogaeth yn bwysig iawn i drigolion Mizoram, ac mae hynny yn bennaf oherwydd Cymry a aeth i genhadu yno, ddiwedd y 19eg ganrif. O ganlyniad, mae'r Mizos yn edmygu'r Cymry a'n gwlad yn fawr.

Un o'r rheiny yw'r Parch Ddr Hmar Sangkhuma, sydd bellach yn weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd:

Rhannu'r newyddion da

"Mae Cymru a Mizoram wedi cael perthynas glos ers 119 o flynyddoedd, sydd yn parhau hyd heddiw. Daeth cenhadon o Gymru i rannu'r newyddion da o iachawdwriaeth, sefydlu ysgolion ac ysbytai.

"Rydyn ni'n gwbl ffyddlon i'r ffydd Gristnogol, ac yn hynod ddiolchgar i Dduw ac i'n cyn-genhadon a drawsnewidiodd fywydau a chymunedau ym Mizoram. Rydyn ni ar y blaen o ran llythrennedd yn India, a'r cyfrannwr mwyaf helaeth i Gymdeithas y Beibl yn y wlad.

"Rydyn ni wedi cyfuno traddodiadau Cristnogol â'n drymiau traddodiadol, ein dawnsio, ein steil unigryw o ganu a gweddïo torfol. Mae hyn wedi achosi i'r crefydd barhau a chryfhau."

Ffynhonnell y llun, H. Sangkhuma
Disgrifiad o’r llun,

Y Parch Ddr Hmar Sangkhuma

Gosod seiliau Cristnogaeth

Cafodd y Parch Aneurin Owen ei eni ym Mizoram, yn fab i genhadwr, ac mae'n dychwelyd yno'n rheolaidd ac â diddordeb yn hanes genhadol yr ardal:

"Ddiwedd y 19eg ganrif, roedd nifer yn ceisio mynd draw i'r rhanbarth i genhadu i'r trigolion, ond heb fawr o lwyddiant - doedd dim croeso i estroniaid gan fod llwythi'r Mizos yn enwog am fod yn helwyr heb eu hail ac yn helwyr pennau dynol!

"Fodd bynnag, llwyddodd y Cymro o Landderfel ger y Bala, y Parch D E Jones i ymgartrefu yn eu plith, cychwyn ysgol fechan syml a dechrau dysgu hanesion o'r Beibl i gylchoedd bychan pentrefol.

"Gwasanaethodd yno rhwng 1897 a 1926, a chydweithio gyda gŵr ifanc o Bensarn, ger Abergele, Edwin Rowlands a chadarnhau ffydd yr eglwys gynnar.

"Fflam yn llosgi'n isel oedd y dyddiau cynnar hynny ond taniwyd y wlad trwyddi wrth iddyn nhw glywed am ddiwygiad ysbrydol Cymru yn 1904-05."

Ffynhonnell y llun, Eilir Owen Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Parch Aneurin Owen tu allan i Goleg Diwinyddol Aizawl, gafodd ei sefydlu gan y Parch D E Jones yn 1907

Dod â'r genhadaeth i Gymru

Mae'r Parch Ddr Hmar Sangkhuma yn credu ei bod hi'n hollbwysig cadw'r cysylltiad yn fyw rhwng Mizoram a Chymru:

"Daethon ni i Gymru yn 1998 yn dilyn gwahoddiad gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac o dan nawdd y Cyngor Cenhadu Byd-Eang i helpu i ddatblygu'r fenter genhadu. Gweithion ni â'r Undeb am bedair blynedd, cyn symud i weithio â'r Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru.

"Rydw i'n gweithio fel Galluogwr Cenhadu ar gyfer dwy henaduriaeth yn ne Cymru, sy'n cynnwys 77 o eglwysi yng Nghaerdydd. Ymhlith fy swyddogaethau rwy'n dysgu'r gynulleidfa am genhadu, cynnig hyfforddiant i arweinwyr lleyg a mentora cenhadon newydd.

"Mae'r Cymry a'u heglwysi yn gyfeillgar a chroesawgar ac rydyn ni'n teimlo'n gartrefol yma, fel ffrwyth gwaith y cenhadon o Gymru a aeth i Mizoram gyntaf."

Mae'r Parch Aneirin Owen yn egluro nad oedd hi'n hawdd ar y cychwyn i'r Cristnogion arloesol o Gymru:

"Wedi gwaith cychwynnnol D E Jones ac Edwin Rowlands, yn ystod y degawdau canlynol cafodd cafodd meddygon, gweinyddesau ac athrawon eu hanfon i gadarnhau'r weinidogaeth Gristnogol o bregethu ac astudio'r Beibl.

Rhodd ysbrydol

"Cafodd dau Gristion ifanc eu hanfon i wastadir Shillong (lle roedd y genhadaeth Gymreig wedi sefydlu ddegawdau yngynt), ond mi gawson nhw eu siomi nad oedd yr ysbryd mor gryf yno ag oedd yn cael ei adrodd gan y fam-eglwys yng Nghymru.

"Yn ôl yr hanes, ar y ffordd yn ôl i'r bryniau ac i dref Aizawl aeth y ddau ar eu gliniau y tu allan i'r dref a chyffesu eu bod yn wag o unrhyw rodd ysbrydol i'w rannu efo'r eglwys ifanc ym Mizoram.

"Ond wrth erfyn yno ar gwr y dref fe'u llanwyd â'r Ysbryd Glân a daeth fflam yr Ysbryd i Mizoram gan ledaenu ar draws y bryniau a chreu credinwyr ymhob cwr o'r wlad.

"Mae diwygiadau yn parhau yno hyd heddiw, mae'r eglwys yn gwasanaethu ei gwlad ym mhob agwedd o'i bywyd a thros 90% o'r boblogaeth yn arddel y ffydd Gristnogol.

"Yn rhyfeddol hefyd mae cenhadon Mizo, dros 1,500 ohonyn nhw, o boblogaeth fechan o filiwn o bobl yn cael eu hanfon i bob cwr o'r byd gan gynnwys Cymru."

Mae'r Parch Ddr Hmar Sangkhuma yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae arweinwyr eglwysig yng Nghymru wedi ei roi i'r genhadaeth yn Mizoram dros y degawdau:

"Rydyn ni'n ddiolchgar i'r Parchedigion Ioan Wyn Gruffydd, Dewi Myrddin Hughes, Dafydd Andrew Jones a Meirion Morris, sydd wedi gweithio'n ddyfal i ddatblygu a chynnal y berthynas a'r gwaith sy'n cael ei gynnal gennym.

"Rwy'n mawr obeithio y bydd y berthynas yn parhau am flynyddoedd i ddod."

Ffynhonnell y llun, Aneurin Owen
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Durtlang ger Aizawl, ble cafodd y Parch Aneurin Owen ei eni