Gobaith record glaw ar ben i Eglwyswrw wedi 85 diwrnod
- Cyhoeddwyd

Mae pentref yn Sir Benfro wedi methu a thorri record Brydeinig am y nifer fwyaf o ddiwrnodau o law yn olynol, wedi'r diwrnod sych cyntaf ers 85 diwrnod.
Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gadarnhau nad oedd glaw yn Eglwyswrw, ger Aberteifi, yn y 24 awr ddiwethaf.
Y record Brydeinig yw 89 o ddyddiau, roedd hynny yn Yr Alban yn 1923.
Roedd pobl yn y pentref yn dweud bod y glaw yn eu "digalonni", a bod y glaw hyd yn oed yn gwneud anifeiliaid fferm yn drist.
Dywedodd John Davies, sy'n ffermwr a chynghorydd lleol: "Roedden ni mor agos at y record ond mae'n debyg ein bod ni wedi methu ar yr unfed awr ar ddeg."