Enwi deinosor gafodd ei ddarganfod yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ysgerbwd deinosor gafodd ei ddarganfod ar draeth ym Mro Morgannwg yn 2014 yn dilyn storm wedi cael ei enwi.
Roedd y deinosor gafodd ei ddarganfod yn Larnog - Dracoraptor hanigani - yn gefnder pell i'r enwog Tyrannosaurus Rex.
Mae 'Dracoraptor' yn golygu 'lleidr dreigiau', tra bo 'hanigani' yn deyrnged i'r brodyr wnaeth ddarganfod y gweddillion - Nick a Rob Hanigan.
Dyma'r ysgerbwd theropod cyntaf i gael ei ddarganfod yng Nghymru.
Mae dannedd a rhai esgyrn deinosoriaid eraill wedi cael eu darganfod ger Penarth, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Bont-faen yn y gorffennol.
Bu cydlynydd paleontoleg Amgueddfa Cymru, Cindy Howells, yn gweithio ar y cyd gydag arbenigwyr o Brifysgolion Portsmouth a Manceinion i sefydlu bod y deinosor yn fwytäwr cig ifanc o'r grŵp theropod.
Byddai wedi bod yn 70cm o daldra a 200cm o hyd, gyda chynffon hir i helpu ei gydbwysedd.
Mae'r ffosil yn cael ei arddangos yn y brif neuadd yn Amgueddfa Cymru.