Cymoedd cyfarwydd
- Cyhoeddwyd
Mae S4C yn Caru'r Cymoedd, dolen allanol gyda chyfres o raglenni'n canolbwyntio ar gymoedd de Cymru.
Bydd rhaglenni fel Cymoedd Roy Noble, Heno, Ffermio a chyfres newydd o Gwaith Cartref yn dathlu'r ardaloedd yma o Gymru am wythnos.
Mae 'na newidiadau rhyfeddol wedi bod i dirlun cymoedd y de ers tranc y diwydiannau glo a haearn, ond fel y gwelwch chi mae olion y dreftadaeth gyfoethog honno yn dal i'w gweld mewn sawl cymuned:
Dyma ffordd y Gadlys, Aberdâr tua dechrau'r 20fed ganrif, gydag Ysgol y Bechgyn (yr adeilad gyda'r cloc) yn ganolbwynt urddasol i'r sgwâr.
Yn 2015, mae'r prif elfennau yn dal yna a'r pethau mwyaf sydd wedi newid yw'r gwisgoedd a'r cerbydau! Un peth arall elfennol sydd wedi newid yw bod yr hen ysgol i fechgyn nawr yn dŷ preifat.
Wrth reswm, mae llawer o'r hen ddiwydiannau wedi diflannu bellach ond mae adeiladau a sefydliadau eraill wedi eu disodli. Dyma safle gwaith glo Nantgarw, un o'r pyllau dwfn yn ne Cymru ar ddiwedd y 70au.
O'r un safle heddiw gallwch weld yr un tai a'r muriau, ond yn lle'r pwll glo, mae adeiladau newydd Coleg y Cymoedd a pharc manwerthu Nantgarw.
Yn ôl i Aberdâr, a'r olygfa yma o'r Stryd Fawr, yn edrych i lawr Heol Canon gafodd ei dynnu tua 1890. Sylwch ar neuadd y Seiri Rhyddion (yr adeilad sy'n edrych fel capel) ar y dde, a'r 'Constitutional Club' ar y chwith.
Ydy, mae pob dim dal yna. Tynnwch y sgaffaldiau i ffwrdd ac mae holl fanylder adeilad y 'Consti' yr un fath. A sylwch ar y postyn lamp o flaen neuadd y Seiri Rhyddion - mae'r golau wedi newid, ond dyw'r postyn ddim wedi symud!
I lawr y cwm nawr i Lwynypia ger Tonypandy. Mae'r 'Glamorgan Colliery' i'w weld yn glir ar waelod y cwm, gyda mwg yn codi o'r simneiau uchel.
Heddiw, mae'r simneiau wedi diflannu ac mae archfarchnad a bwyty byrgyrs ar y safle. Ond os edrychwch yn ofalus, mae un o'r adeiladau mawr oedd wrth droed y simneiau uchel yn dal yno.
Am tua 4pm ar y 11eg o Fawrth 1910 yng Nghwmclydach, collodd un oedolyn a phum plentyn eu bywydau ar ôl i ddŵr oedd wedi casglu mewn pwll glo segur ddechrau llifo drwy'r pentref.
Erbyn hyn, does 'na ddim tystiolaeth o unrhyw drychineb ar Heol y Wern, ond maen nhw wedi adeiladu ambell i dŷ newydd!