Ysgol yn gwahardd siocled o achos alergedd disgybl

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Google

Mae ysgol yn y de orllewin wedi gwahardd plant ag athrawon rhag bwyta siocled gan fod bachgen yn yr ysgol yn dioddef gydag alergedd difrifol. Mae melysion, byrbrydau a bisgedi sy'n cynnwys siocled wedi eu gwahardd rhag i'r plentyn fynd yn sâl.

Mae'r athrawon yn yr ysgol hefyd wedi eu gwahardd rhag bwyta bwyd sy'n cynnwys siocled yn yr ystafell athrawon.

Mae rhai rhieni wedi lleisio eu hanfodlonrwydd gyda'r penderfyniad.

Mae penaethiad addysg yn Ysgol Gynradd Alltwen ym Mhontardawe, wedi gwahardd siocled o ffreutur, cae chwarae ag ystafell athrawon yr ysgol.

Ysgrifennodd y pennaeth, Owain Hyett, at rieni gan ddweud: "Yn anffodus mae un o'n disgyblion wedi derbyn diagnosis o alergedd i siocled ac fe all fod yn wael iawn os bydd mewn cyswllt gyda siocled.

"Yn anffodus mae'r plentyn yn sensitif i siocled os yw yn yr aer neu'n cael ei fwyta gan ddisgybl arall. Er mwyn cynnal diogelwch y disgybl fe fydd ein hysgol yn mabwysiadu polisi dim siocled i'r holl ddisgyblion a staff. Bydd pob ardal o'r ysgol yn ddi-siocled gan gynnwys ystafell y staff a'r swyddfa.

"Mae'r adran arlwyo yn gweithio gyda'r ysgol i newid ein bwydlen ginio drwy newid cynnyrch siocled. Rydym hefyd yn gofyn eich bod yn sicrhau nad oes unrhyw olion o siocled ym magiau ysgol a chinio ysgol y disgyblion sydd wedi eu paratoi yn y cartref."

Problemau iechyd

Gall y cyflwr y mae'r disgybl yn ei ddioddef achosi problemau anadlu, llosgi yn y gwddf, chwydd yn y geg ac o amgylch y wyneb, pryder, problemau ymddygiad, cyfog a bod yn ben ysgafn.

Ond dywedodd un rhiant, oedd am aros yn ddi-enw, y byddai'r gwaharddiad yn "amddifadu" plant eraill o gael bwyta siocled yn yr ysgol sy'n dysgu 260 o ddisgyblion. Dywedodd y ddynes: "Rwy'n teimlo dros y plant hynny sydd ag alergedd ond dyw gwahardd siocled i bobl plentyn ddim yn iawn - beth ddaw nesa?

"Beth sy'n digwydd pan fydd y plentyn ag alergedd yn mynd tu allan i'r ysgol? Ydyn nhw'n gofyn i bawb i beidio bwyta siocled? Beth os oes gen i siocled yn fy mhoced ar yr iard pan mae'n amser dod i gludo'r plant adref? Fydd na heddlu siocled wrth giat yr ysgol?

"Fydd hyn yn arwain at staff yn gwastraffu eu hamser yn archwilio pecynnau cinio? Sut fydd hyn yn gwneud i fy mhlentyn deimlo? Rhaid bod ffordd arall o ddiogelu'r plentyn sydd ag alergedd heb amddifadu fy mhlentyn i ag eraill o siocled?"

Ond dywedodd dynes arall: "Mae fy merch yn mynd i'r ysgol yma ac rwy'n cytuno gyda'r pennaeth os byddwn i'n anwybyddu rheolau'r ysgol ac yn rhoi siocled i fy merch ac os byddai hi'n mynd yn agos at y disgybl fe fyddai fy mhlentyn yn teimlo'n ofnadwy petai'r plentyn hwnnw'n mynd yn sal neu'n gorfod mynd i'r ysbyty."

Nid yw'r ysgol wedi gwneud sylw ar y mater.