Dylan Seabridge: Galw am ymchwiliad annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae'r AC Ceidwadol Angela Burns wedi galw am ymchwiliad annibynnol i farwolaeth bachgen wyth oed o Sir Benfro.
Bu farw Dylan Seabridge o sgyrfi yn 2011.
Mae sylwadau'r AC ar ôl ymchwiliad BBC Cymru wnaeth ddatgelu bod pryderon wedi eu codi am Dylan fwy na blwyddyn cyn iddo farw.
Mi gafodd ei rieni eu cyhuddo o esgeulustod ond mi benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn 2014 na fyddai yna achos troseddol yn eu herbyn.
Mi ddywedodd Cyngor Sir Penfro y byddai Adolygiad Ymarfer Plant i'r achos yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Ond mae Ms Burns wedi galw ar y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, i ystyried adolygiad annibynnol.
'Pedair blynedd'
Dywedodd hi: "Am bedair blynedd dyw enw y bachgen bach yna a'i sefyllfa ddim wedi bod yn wybyddus i'r rhai hynny sy'n gallu gwneud gwahaniaeth.
"Felly mi fydden ni yn eich annog chi, weinidog, i ystyried a ddylen ni gael adolygiad annibynnol i'r mater achos mae hyn yn fwy na dim ond Cyngor Sir Penfro os ydyn ni wir eisiau gwneud gwahaniaeth.
"Fel dywedais i does gen i ddim ffydd llwyr y bydd y rhai sydd yn cynnal yr adolygiad yn medru gwneud hynny hyd eithaf eu gallu."
Dywedodd y gweinidog fod byrddau diogelu plant yn annibynnol a'i bod hi'n rhy gynnar ddod i gasgliad cyn bod yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi ei gyhoeddi.