Dylan Seabridge: Pryderon cyn ei farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Sgyrfi Ail Greu
Disgrifiad o’r llun,

Llun ail greu

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi darganfod bod pryderon wedi eu pasio i`r awdurdodau am fachgen wyth oed dros flwyddyn cyn iddo farw o sgyrfi.

Bu farw Dylan Seabridge yn Sir Benfro yn 2011, ond does yna ddim wedi ei gyhoeddi ynglyn ag a fyddai'r awdurdodau wedi gallu helpu i atal ei farwolaeth.

Mi glywodd y cwest i'w farwolaeth nad oedd o wedi cael unrhyw gysylltiad gyda'r awdurdodau yn y saith mlynedd cyn iddo farw.

Mae Cyngor Penfro yn dweud y bydd Adolygiad Ymarfer Plant am yr achos yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

Mi glywodd y cwest i farwolaeth Dylan, oedd yn dod o Eglwyswrw, fod sgyrfi yn afiechyd hawdd i'w osgoi a'i drin.

Mi ddywedodd ei rieni, Glynn a Julie Seabridge wrth y cwest nad oedden nhw yn credu fod ganddo sgyrfi. Mi oedden nhw yn meddwl ei fod yn dioddef o boenau tyfu.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mi ddywedodd rhieni Dylan ei bod nhw yn meddwl ei fod yn dioddef o boenau tyfu

Mi gafodd y ddau eu cyhuddo o esgeulustod ond mi benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn 2014 na fyddai yna achos troseddol yn eu herbyn.

Does yna ddim Adolygiad Achos Difrifol wedi ei gyhoeddi ers marwolaeth Dylan bedair blynedd yn ôl, ond mae BBC Cymru wedi gweld copi o'r adroddiad drafft.

Mae'n dweud fod Dylan wedi ei addysgu gartref ac yn "anweledig" i'r awdurdodau. Anghytuno ei fod yn "anweledig" mae ei rieni.

Mi ddywedodd awdures yr adroddiad ei bod hi'n gwybod cyn lleied am Dylan y byddai yn "amhosib iddi lunio llun ohono gyda beiro."

Er ei fod yn byw yn Sir Benfro mi oedd Mrs Seabridge yn gweithio yng Ngheredigion cyn i'w gwaith ddod i ben.

Disgrifiad,

Bu farw Dylan Seabridge, oedd yn cael ei addysg adref, yn Sir Benfro yn 2011

Dysgu gwersi

Yn ystod tribiwnlys cyflogaeth mi gysylltodd cyfreithiwr â phennaeth gyda'r gwasanaethau cymdeithasol ar ôl iddyn nhw ddod yn ymwybodol bod Mrs Seabridge yn dioddef o salwch meddwl, a bod ei phlentyn yn cael ei addysgu gartref.

Mi aeth swyddogion addysg i weld y teulu ond doedd ganddyn nhw ddim hawl i fynnu gweld Dylan. Mae'r adroddiad gafodd ei ysgrifennu yn 2013 ac sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dod i'r casgliad bod angen cryfhau ar frys y deddfau sy'n ymwneud ag addysgu gartref yng Nghymru.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Dr Sally Holland: "Er nad yw hi'n bosib eto i ddweud beth yn union a ddigwyddodd yn yr achos hwn, dw i'n poeni am y plant sy'n llithro o dan y radar bob dydd a'r gwasanaethau cyffredinol sydd yn gallu cadw golwg ar eu lles."

Dywedodd ymgynghorydd ar addysgu yn y cartref, Fiona Nicholson:

"Mae'r gyfraith yn ddigonol fel y mae hi a does dim angen newidiadau i warchod plant. Os ydych chi'n troi hyn yn fater o blismona, bydd pobl yn gosod rhwystrau."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw yn cyhoeddi canllawiau sydd ddim yn statudol ynglyn ag addysgu gartref yn fuan. Ond dyw'r ymchwiliad i achos Dylan ddim wedi bod yn rhan o'r drafodaeth gyhoeddus.

Adolygiad newydd

Disgrifiad o’r llun,

Llun ail greu

Mae Cyngor Penfro yn dweud bod yr Adolygiad Achos Difrifol wedi ei ohirio tra'n disgwyl casgliad gweithrediadau cyfreithiol.

Ychwanegodd y cyngor bod newidiadau i`r systemau yn golygu bod adolygiad o fath gwahanol yn mynd rhagddo fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

Mae Cyngor Ceredigion yn mynnu ei bod wedi trosglwyddo`r wybodaeth ar gyfer yr adroddiad yn brydlon. Mae nhw'n cytuno nad yw'r rheoliadau presennol ynglyn ag addysgu gartref yn rhoi digon o bwerau i awdurdodau fonitro plant sydd yn cael eu dysgu gartref.