Maes awyr Caerdydd: 'Angen datganoli treth teithwyr'

  • Cyhoeddwyd
roger lewis
Disgrifiad o’r llun,

Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am dreth teithwyr awyr, meddai Roger Lewis

Dylai Llywodraeth y DU ddatganoli treth teithwyr awyr i Gymru er mwyn rhoi hwb i fusnesau, meddai cadeirydd Maes Awyr Caerdydd.

Dywedodd Roger Lewis y byddai trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn "iawn ac yn deg".

Daeth ei alwad wrth iddo nodi 100 o ddiwrnodau yn y swydd, yn dilyn gadael Undeb Rygbi Cymru.

Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am dreth teithwyr awyr, ond mae'n faen tramgwydd yn y trafodaethau dros bwerau newydd i Gymru.

Yn ôl un o gystadleuwyr Caerdydd, Maes Awyr Bryste, byddai trosglwyddo'r pŵer yn rhoi mantais annheg i'r brifddinas.

'Cyfle gwych'

"Byddai datganoli'r cyfrifoldeb hwnnw i Gymru, gan ei fod wedi ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon, i'r Alban, yn iawn ac yn deg," meddai Mr Lewis.

"Rwy'n credu y bydd yn digwydd, oherwydd rwy'n credu y bydd yn creu cyfle gwych, nid yn unig i'r maes awyr, ond hefyd i'r diwydiant cynhaliaeth ac atgyweirio yng Nghymru."

Dywedodd ei fod wedi cael trafodaethau "aeddfed" gyda gweinidogion y DU ar y mater, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, a bu'n canmol y gefnogaeth gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Mae Mr Lewis yn dymuno gweld cynnydd yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd yn 2016, gan adeiladu ar y twf o 13% yn 2015.

Dywedodd hefyd y byddai pedwar llwybr newydd i Sbaen o'r brifddinas yn yr haf.