Robert Croft yn brif hyfforddwr newydd Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi penodi'r cyn chwaraewr, Robert Croft, fel eu prif hyfforddwr newydd.
Mae Croft, sy'n 45 oed, wedi arwyddo cytundeb parhaol gyda'r clwb yn dilyn proses recriwtio gan y Prif Weithredwr Hugh Morris.
"Robert oedd yr ymgeisydd delfrydol ar gyfer y swydd, ac mae ei record fel chwaraewr criced rhyngwladol i Forgannwg yn creu argraff ar unrhyw un," meddai Hugh Morris.
"Ei gysylltiad hir gyda'r clwb, ei wybodaeth am y garfan a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol oedd yr elfennau mwyaf arwyddocaol yn ei gyfweliad, ac rydym yn falch iawn ei fod wedi derbyn y cyfle hwn.
"Roedd diddordeb sylweddol yn y rôl o sbectrwm eang o dalent hyfforddi ac er bod gan ymgeiswyr eraill eu rhinweddau, daethom i'r casgliad mai Robert oedd y dyn gorau ar gyfer y swydd."
Fe fydd Croft, sydd ar hyn o bryd yn teithio gyda thîm Lloegr yn Ne Affrica, yn dychwelyd i Gaerdydd yr wythnos nesaf i oruchwylio paratoadau cyn y tymor newydd.
Mae Croft wedi treulio'r tri thymor diwethaf fel hyfforddwr cynorthwyol y clwb.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Forgannwg yn 1989, ac aeth ymlaen i gymryd 1117 wiced mewn gyrfa lwyddianus.
"Mae Morgannwg wedi bod yn gartref i mi am 28 mlynedd fel chwaraewr a hyfforddwr ac roedd yn foment arbennig iawn pan gefais gynnig y cyfle i arwain y grŵp o chwaraewyr yma," meddai Croft .
"Mae'r gwaith caled yn dechrau nawr, a 'dwi'n edrych ymlaen i gwrdd â'r chwaraewyr, a'r tîm ystafell gefn i drafod ein cynlluniau cyn gynted ag yr wyf yn dychwelyd i'r DU."