Cynllun i wella gwasanaethau'r glust, y trwyn a'r gwddf
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwasanaethau awdioleg cymunedol, sy'n gallu rheoli atgyfeiriadau uniongyrchol o ofal sylfaenol ar gyfer colli clyw, tinitws a theimlo'n benysgafn, yn cael eu sefydlu.
Y gobaith yw y bydd hyn yn rhyddhau gwasanaethau eraill mewn ysbytai i drin yr achosion mwyaf cymhleth.
Mae hyn yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau'r glust, y trwyn a'r gwddf (ENT) yn y Gwasanaeth Iechyd.
Yng Nghymru y llynedd, fe gafodd dros 84,000 o gleifion allanol ENT newydd eu cyfeirio, a chynhaliwyd tua 15,000 o driniaethau.
Fel rhan o'r cynllun, bydd mesurau newydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau mai'r cleifion cywir yn unig sy'n cael eu rheoli gan ofal eilaidd dan arweiniad meddyg.
Mesurau
Mae'r mesurau eraill yn cynnwys:
Bydd byrddau iechyd yn sicrhau na chaiff ymyriadau "peidiwch â gwneud" ac "ymyriadau na chânt eu cynnal fel arfer" y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal Iechyd eu gwneud bellach;
Bydd byrddau iechyd yn dilysu rhestrau aros i ddileu cleifion nad oes angen apwyntiad fel claf allanol neu lawdriniaeth arnynt;
Dylid trefnu apwyntiadau dilynol lle bo'n gwbl angenrheidiol yn unig. Bydd hyn yn rhyddhau amser meddygon i drin mwy o gleifion;
Lle bo angen apwyntiad dilynol fel claf allanol, bydd hyn yn cael ei gynnal fwyfwy fel apwyntiad rhithwir ar gyfer achosion lle mae'n ddiogel ac yn briodol rhoi cyngor trwy ddefnyddio ffyrdd gwahanol o gyfathrebu;
Bydd pob claf yn cael asesiad ysmygu a phwysau fel rhan o'u llwybr atgyfeirio i gael apwyntiad arferol fel claf allanol ENT;
Bydd grwpiau gofal ar y cyd (rhwng ysbytai, gofal yn y gymuned a gofal sylfaenol) yn cael eu sefydlu i roi'r grym i gleifion reoli eu hiechyd eu hunain.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae ein system gofal wedi'i gynllunio yn wynebu heriau sylweddol oherwydd cynnydd yn y galw.
Mae angen newid y system yn sylweddol ac ar frys i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel.
"Mae'r cynllun ENT rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn nodi nifer o newidiadau pwysig y byddwn yn eu gwneud i'r gwasanaethau fel bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio cynaliadwy sy'n gwella canlyniadau cleifion."