Deddf gyntaf i ddiogelu henebion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Clawdd OffaFfynhonnell y llun, Mark Williams
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd neb eu herlyn er gwaethaf ymchwiliad heddlu wedi i rywun ddifrodi Clawdd Offa

Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad gefnogi mesur newydd i amddiffyn safleoedd hanesyddol a threftadaeth ddydd Mawrth.

Nod y Mesur Amgylchedd Hanesyddol yw cyflwyno camau newydd i warchod amgylchedd hanesyddol Cymru, yn cynnwys enwau lleoliadau hanesyddol.

Bydd y mesur yn rhoi pwerau i weinidogion orfodi perchnogion sy'n niweidio henebion wneud gwaith atgyweirio pe bai'r henebion yn cael eu difrodi.

Fe fydd lleoliadau brwydrau enwog, anheddau hanesyddol ac enwau lleoedd hefyd yn cael eu diogelu.

Daw'r mesur yn dilyn pryder bod 119 o achosion o ddifrod wedi bod i safleoedd rhwng 2006 a 2012, a dim ond un achos wnaeth arwain at erlyniad llwyddiannus.

Bydd y mesur yn ei gwneud yn fwy anodd i bobl hawlio anwybodaeth o statws neu leoliad y safleoedd.

Fe fydd awdurdodau yn cael caniatâd i gymryd camau brys i atal gwaith sydd heb ei awdurdodi ar y safleoedd, a bydd mesurau i atal adeiladau hanesyddol rhag adfeilio yn dod i rym.

Petai'r mesur yn dod yn gyfraith, bydd Cymru hefyd yn dod y wlad gyntaf yn y DU i roi cofnodion am yr amgylchedd hanesyddol ar gofnod statudol.

Un lle gafodd sylw yn ddiweddar oedd Plas Glynllifon yng Ngwynedd, a chynlluniau datblygwyr i ailenwi'r plasty yn Wynnborne.

Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Plas Glynllifon ger Caernarfon ar werth yn ddiweddar o dan yr enw Wynnborn Mansion

'Balchder'

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates egluro arwyddocâd y mesur.

"Rydyn ni wedi gweld o adwaith i achosion diweddar o ddifrodi henebion cofrestredig yng Nghymru, y balchder y mae pobl yn cymryd yn ein treftadaeth," meddai.

"Heb ddiogelu a rheoli iawn, gallai ein hadeiladau gwerthfawr a'n henebion gael eu colli am byth.

"Drwy'r mesur hwn, byddwn yn gwella'r rheolaeth ar ein hamgylchedd hanesyddol, gan ei gwneud yn glir, effeithiol a hyblyg, beth yw ein galluogi i ddiogelu ein gorffennol ar gyfer Cymru yfory."