Ffoaduriaid Ceredigion: Canrif o gymorth
- Cyhoeddwyd
Bydd cyngerdd arbennig i godi arian i ffoaduriaid o Syria'n cael ei chynnal yng ngogledd Ceredigion nos Fawrth, a hynny union ganrif wedi i gyngerdd ddyngarol debyg gael ei chynnal yn yr un capel.
Mae'r noson yng Nghapel y Garn, Bow Street wedi ei threfnu fel rhan o gydweithrediad rhwng capeli gogledd y Sir.
Un o'r trefnwyr yw Marian Beech Hughes: "Mi wnaethon ni gynnal prosiect Cofio a Myfyrio yn 2014, i ymchwilio i effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar yr ardal o safbwynt crefyddol, ac un o'r pethau wnaethon ni oedd gofyn i bobl ddod â hen luniau a dogfennau i'w rhannu.
"Un o'r pethau ddaeth i'r wyneb oedd rhaglen cyngerdd gafodd ei gynnal yng Nghapel y Garn ym mis Chwefror 1916. Bryd hynny, roedd ffoaduriaid o Wlad Belg yn cael lloches yn ardal Aberystwyth."
"Gan fod ffoaduriaid o Syria yn cael lloches yn Aberystwyth ar hyn o bryd, buon ni'n meddwl am ffyrdd o gynnig help. Roedden ni'n meddwl bod hyn yn ffordd o wneud hynny, ac o gofio hefyd am beth ddigwyddodd ganrif yn ôl."
Fe ddaeth y ffoaduriaid o Wlad Belg i ardal Aberystwyth ym 1914 i gael lloches yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd athrawon, cerddorion ac arlunwyr yn eu plith ac un o'r rheiny oedd Nicolas Laoureux, a oedd yn bianydd yn Llys y Brenin ym Mrwsel.
Tra buon nhw yn yr ardal, cafodd nifer o gyngherddau eu cynnal mewn gwahanol gymunedau, gyda'r bobl leol a'r Belgiaid yn cymryd rhan.
Ar 16 Chwefror, tro Capel y Garn oedd hi i gynnal yr Evening Concert, gyda'r arian a gafodd ei godi yn mynd at Ysbyty'r Groes Goch yn Aberystwyth.
Un sy'n gyfarwydd a hanes y ffoaduriaid yw'r Dr Rhian Dafydd, Cyfarwyddwraig Gŵyl Gregynog: "Mae 'na rywfaint o ddirgelwch i'r hanes, ond roedd gan Chwiorydd Davies Gregynog, oedd yn dal i fyw yn Llandinam ar y pryd, awydd achub pobl, yn enwedig pobl bwysig, enwog".
"Roedd ganddyn nhw gysylltiadau pwysig ym Mharis, lle roedden nhw'n mynd i chwilio am weithiau celf.
"Nhw ariannodd yr holl arbrawf i chwilio am bobl, ac fe gyrhaeddodd 130 o Felgiaid Lundain yn gyntaf, cyn dal trên o Euston i ganolbarth Cymru."
'Yr ochr arall i ryfel'
Mae'r Dr Davies, fydd yn siarad yn y gyngerdd yng Nghapel y Garn nos Fawrth, yn credu fod cynnal digwyddiad fel hyn yn arwyddocaol.
"Mae'r hanes yma'n bwysig iawn. Fel arfer, mae pawb yn canolbwyntio ar straeon yn ymwneud â'r ymladd, ond mae ochr arall i ryfel - y werin bobl sy'n ceisio dianc rhag yr ymladd, ac mae 'na baralel cryf iawn rhwng yr hyn ddigwyddodd ganrif yn ôl a'r hyn sy'n digwydd nawr yn Syria."
Adleisio hynny mae Siôn Meredith o Tearfund Cymru sydd hefyd yn cymryd rhan.
"Gan mlynedd ar ôl croesawu ffoaduriaid o Wlad Belg i Aberystwyth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae hi'n wych bod ardal Aberystwyth yn estyn croeso i ffoaduriaid unwaith eto - rhai sy'n ffoi rhag rhyfel yn Syria. Mae dyletswydd foesol arnom i gefnogi a chroesawu ffoaduriaid, a'u trin nhw fel y bydden ninnau am gael ein trin pe bydden ninnau ar ffo."
Bydd perthnasau i rai o'r bobl leol a berfformiodd yn y gyngerdd ganrif yn ôl yn cymryd rhan yn yr achlysur yng Nghapel y Garn nos Fawrth.
Darllennodd Arthur O Evans, cigydd lleol, ran o Araith Llywelyn ym 1916. Yn 2016, bydd ei or-nith, Heledd Hall yn rhoi unawd ar y ffidil.
Hefyd yn 1916, rhoddodd y Prifardd Dewi Morgan air o ddiolch mewn Ffrangeg. Ei fab, yr Arglwydd Elystan Morgan fydd y llywydd anrhydeddus y tro hwn. Mae'n ystyried y gwahoddiad yn fraint:
"Gwerthaworgaf yn enfawr y fraint o fod yn llywydd anrhydeddus ar gyfarfod mor arbennig am hanes eglwys y Garn.
"Yr hyn sy'n anghyffredin - os nad yn unigryw - yw fod yr achlysur yn adleisio yr hyn a gymrodd le union ganrif yn ôl.
"Croesawyd ffoaduriaid Gwlad Belg gan ardal gyfan a oedd mor awyddus i ddatgan ei chydymdeimlad greddfol a gwerinol â gwlad fach a ddioddefodd y drasiedi o fod ar lwybr militariaeth didostur y cyfnod."