'Prinder tai newydd yn cynyddu prisiau'

  • Cyhoeddwyd
tai

Mae prinder tai newydd yn y farchnad dai yn golygu bod prisiau tai Cymru ar gynnydd, yn ôl gwaith ymchwil gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Bu gostyngiad yn nifer y tai newydd aeth ar werth am y pedwerydd tro mewn pum mis yn ôl RICS, er bod cynnydd yn nifer y bobl sydd yn chwilio am dai.

O ganlyniad i'r gwahaniaeth rhwng y tai sydd ar werth a nifer y bobl sydd yn chwilio am dai newydd, fe welwyd cynnydd ym mhrisiau tai yn ystod mis Ionawr ac mae disgwyl y bydd y cynnydd yn parhau rhwng misoedd Chwefror ag Ebrill.

Dywed RICS eu bod yn disgwyl i brisiau tai gynyddu o ryw 6% yn 2016.

Dywedodd llefarydd RICS Cymru, Tony Filice: "Mae wedi bod yn ddechrau prysur i'r farchnad dai yng Nghymru o ran gwerthu a nifer y tai sydd yn mynd ar werth. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y farchnad yn dynn wrth i fwy o brynwyr ymuno â'r farchnad.

"Mae hyn yn gwthio prisiau i fyny a'r disgwyl yw y bydd hyn yn parhau am y tro. Wrth i ni symud tuag at y gwanwyn, fe fyddwn efallai yn gweld cynnydd yn nifer y tai sydd ar werth. Os bydd hyn yn digwydd, fe fydd yn cynorthwyo'r galw am eiddo, gan gynyddu gwerthiannau a llacio'r pwysau ar brisiau tai."