Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi newidiadau i rai cleifion
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gan bobl 'fwy o lais' am sut y mae gwasanaethau cymdeithasol yn asesu ac yn darparu'u gofal a'u cymorth o fis Ebrill ymlaen.
Yn ogystal â hyn, bydd gofal ar gyfer cleifion allanol yn cael ei ddarparu mewn ffordd wahanol yn y dyfodol.
Ddydd Iau fe fydd ymgyrch yn cael ei lansio i roi gwybod i bobl am y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan gyfraith newydd - sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yn ol Llywodraeth Cymru bydd y gyfraith newydd yn "trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu yng Nghymru i ddiwallu anghenion unigolion a sicrhau bod gwasanaethau'n rhai cynaliadwy ar gyfer y dyfodol."
Nod yw ddeddf, sy'n dod i rym ar 6 Ebrill, yw canolbwyntio ar ymyrryd yn gynharach; cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned a helpu pobl i gadw'u hannibyniaeth.
Wrth iddo lansio'r cynllun ddydd Iau, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, y byddai gofal ar gyfer cleifion allanol hefyd yn cael ei ddarparu mewn ffordd gwbl wahanol yn y dyfodol.
"Bydd hyn yn rhyddhau arbenigwyr mewn ysbytai er mwyn iddynt ofalu am bobl â'r problemau mwyaf cymhleth."
Yn nes at y cartref
Fel rhan o'r dull i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cleifion allanol yn cael eu darparu, bydd mwy o wasanaethau yn cael eu darparu yn nes at gartrefi pobl, gan ddechrau gyda gwasanaethau orthopedeg; y glust, y trwyn a'r gwddf; wroleg a gwasanaethau gofal llygaid.
Mewn prosiect peilot newydd, bydd clinigau sy'n trin dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig â henaint yn cael eu lleoli yn y gymuned yn hytrach na mewn ysbytai mewn rhai rhannau o'r wlad, a bydd gofal yn cael ei ddarparu gan optometryddion a nyrsys dan oruchwyliaeth offthalmolegwyr.
Bydd hyn, medd Llywodreth Cymru, yn sicrhau y caiff pobl eu gweld yn gynt ac yn galluogi arbenigwyr mewn ysbytai i ganolbwyntio ar y bobl hynny â'r problemau mwyaf cymhleth.
Gwasanaethau gofal
Bydd gwasanaethau gofal sylfaenol yn gallu cyfeirio pobl sydd â chyflyrau fel colli clyw, tinitws a phendro yn uniongyrchol i'r gwasanaethau awdioleg newydd yn y gymuned.
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fydd yn arwain y gwaith o ddiwygio gwasanaethau cleifion allanol.
"Darparodd GIG Cymru fwy na 3.1 miliwn o apwyntiadau i gleifion allanol y llynedd.
"Mewn nifer o ffyrdd, mae gwasanaethau cleifion allanol GIG Cymru wedi aros yn ddigyfnewid dros y blynyddoedd, ac rydym yn gwybod bod technolegau, cyfleusterau newydd a dulliau newydd o weithio yn rhoi'r cyfle inni asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion yn ddiogel ac yn gyflym mewn lleoliadau gwahanol.
"Hoffwn ni sicrhau bod cleifion yn gallu cael cyngor arbenigol a chymorth cyn gynted ag y bo modd. Diwygio ei wasanaeth cleifion allanol yw un ffordd y gall GIG Cymru gyflawni hyn."