Fairbourne: Trigolion i fynd i gyfraith
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw ym mhentref Fairbourne yng Ngwynedd yn bwriadu dechrau ar gamau cyfreithiol yn erbyn cynlluniau allai weld eu pentref yn diflannu dan y môr.
Gallai Cynllun Rheoli Traethlin Cyngor Gwynedd olygu na fyddai amddiffynfeydd llifogydd yn cael eu cynnal a'u cadw ger pentref Fairbourne mewn 40 mlynedd oherwydd bod lefel y môr yn codi.
Mae trigolion wedi bod yn trafod beth sydd ar fin digwydd gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Ond maen nhw wedi dweud wrth raglen Country Focus BBC Cymru fod y bygythiad hirdymor i'r pentref yn cael effaith niweidiol ar eu cartrefi a'u bywydau.
'Dechrau camau cyfreithiol'
Maen nhw nawr wedi pleidleisio dros gael bargyfreithiwr arbenigol i ddechrau ar gamau cyfreithiol i frwydro yn erbyn y cynigion, ac i godi £20,000 i gwrdd â'r costau cyfreithiol.
Dywedodd Pete Cole, cadeirydd y grŵp Fairbourne Facing Change: "Mae hwn yn rhywbeth sy'n parhau i achosi rhwystredigaeth a loes i bobl yn y pentref."
"Mae llawer o rwystredigaeth ers i'r cynlluniau cael eu cyhoeddi, mae yna lawer o siarad wedi bod, ond dim datrysiadau ymarferol i alluogi pobl i symud ymlaen â'u bywydau."
"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, ond os na allwn ni ddod at ddatrysiad y gallwn ni fyw gydag e, mae'n bosib mai her gyfreithiol fydd ein unig ffordd ymlaen."
'Trafodaethau cyson'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae swyddogion mewn trafodaethau cyson gyda thrigolion yn Fairbourne a chafodd diwrnod gwybodaeth ei gynnal yn ddiweddar er mwyn rhannu gwybodaeth am gynllunio dyfodol y gymuned."
"Rydym yn ymwybodol fod trigolion yn ystyried y posibilrwydd o her gyfreithiol, serch hynny, dydyn ni ddim wedi derbyn unrhyw hysbysiad swyddogol hyd yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig fod pawb sydd mewn perygl o lifogydd neu erydiad yn ymwybodol o'r peryglon maen nhw'n wynebu ac yn cynllunio tuag at newid i'r dyfodol."
"Rydym yn cefnogi cymunedau fel Fairbourne - y mae cynigion y Cynllun Rheoli Traethlin yn effeithio arnyn nhw - ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd."