Cyngor Caerdydd: 138 o swyddi ymysg nifer o doriadau
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Dinas Caerdydd wed cyhoeddi cynigion y gyllideb wedi eu diwygio ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus, gan gynnwys colli 138 o swyddi.
Mae'r cyngor wedi cytuno ar y cynigion wedi ymgynghoriad pedair wythnos a hanner o hyd i gasglu barn y cyhoedd ynghylch y gwasanaethau roedden nhw'n teimlo sydd bwysicaf iddynt.
Yn ôl y cyngor, maen nhw wedi derbyn cytundeb gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru ac mae hynny, cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor, incwm gan eiddo ychwanegol a chyfraddau casglu uwch ynghyd â chostau ynni llai yn golygu bod y diffyg yn y gyllideb wedi gostwng o £46m i £32m ers ei chyflwyno ar gyfer yr ymgynghoriad.
Fodd bynnag, mae'r toriadau yn dal i olygu y gall y Cyngor golli hyd at 138 swydd.
Er bod rhai o'r swyddi yn rhai gwag, a bod rhai aelodau o staff wedi mynegi y byddai ganddynt dderbyn diswyddo gwirfoddol, ar y cyfan mae'r gostyngiad net yn ffigwr llawer is nag yn y blynyddoedd cynt (1% o'r gweithlu) ac yn ôl y cyngor, mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda'r undebau llafur ynghylch adleoli os yw hynny'n bosib.
Her
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Graham Hinchey: "O ganlyniad i newidiadau ers yr ymgynghoriad, mae'r diffyg yn y gyllideb £14miliwn yn llai na'r disgwyl, ond mae'r £32 miliwn yn dal i fod yn her.
"Mae'r cytundeb gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, arian ychwanegol y Dreth Gyngor a gostwng costau ynni wedi ein galluogi i ostwng neu ddileu rhai o'r toriadau gwasanaeth a oedd wedi eu nodi yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus.
"Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o ddefnyddio'r arian ychwanegol i weithredu ar ein prif flaenoriaethau ar gyfer Caerdydd a'r trigolion. Mae arnom ni eisiau creu swyddi gwell, sicrhau bod ein gwasanaeth addysg yn gwella, helpu'r sawl sy'n agored i niwed a chreu partneriaethau gwell a fydd yn ein galluogi i ail-siapio ein ffordd o gynnig gwasanaethau."
Mae'r newidiadau canlynol ymhlith y rhai y mae'r weinyddiaeth yn eu cynnig i'r Cyngor Llawn:
Gostwng y cynnydd arfaethedig o ran y Dreth Gyngor o 4.5% i 3.7% (cynnydd o 73c yr wythnos ar gyfer eiddo Band D)
Gwarchod y celfyddydau - mae'r toriadau i Artes Mundi, Canwr y Byd Caerdydd a grantiau celfyddydau cymunedol wedi eu tynnu o'r gyllideb.
Ychwanegu £1.9 miliwn i Grantiau Addasiadau ar gyfer pobl Anabl
Rhoi £1.6 miliwn ychwanegol i'r twf yng nghyllideb ysgolion, bydd hyn yn ariannu'n llawn effaith diddymu rheolau contractio allan o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr i ysgolion
Sefydlu cronfa o £500,000 ar gyfer pobl ifanc Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth Hyfforddiant/Plant sy'n Derbyn Gofal/Prentisiaethau
Ymyriadau wedi eu targedu er mwyn trwsio tyllau yn y ffordd - £320,000 ychwanegol
Arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau glanhau stryd - £320,000 ychwanegol.
Blaenoriaethau'r yngor
Pedwar blaenoriaeth y Cyngor, fel y nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol, yw: Addysg a Sgiliau Gwell i bawb; Cefnogi Pobl sy'n Agored i Niwed; Creu mwy o Swyddi a Swyddi â Thâl Gwell, Cydweithio i Drawsffurfio Gwasanaethau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: "Mae ein penderfyniadau ynghylch y gyllideb yn mynd law yn llaw â'r blaenoriaethau rydym wedi eu nodi yn y Cynllun Corfforaethol.
"Fodd bynnag, mae Caerdydd yn wynebu pwysau ariannol na wynebwyd o'r blaen, ar yr un pryd ag y mae mwy o alw am wasanaethau'r Cyngor. Bydd gweithredu ar ein blaenoriaethau dros gyfnod y Cynllun Corfforaethol yn golygu parhau i ganolbwyntio ar ffyrdd newydd o greu incwm a gwneud arbedion."
Bydd Cabinet Cyngor Dinas Caerdydd yn ystyried cynigion cyllideb 2016/17 y weinyddiaeth ddydd Iau 18 Chwefror cyn eu hanfon ymlaen i'r Cyngor Llawn ar ddiwedd y mis.