Negeseuon yn datgelu trais gan staff tuag at garcharorion

Carchar y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 17 o garcharorion yng Ngharchar y Parc yn 2024 - mwy na mewn unrhyw garchar arall

  • Cyhoeddwyd

Mae'r BBC wedi gweld negeseuon o aelodau staff Carchar y Parc yn chwerthin ar ben carcharorion ac yn gwneud hwyl am ddigwyddiadau hunan-niweidio.

Yn y negeseuon, mae aelod o staff yn ymateb i gŵyn am garcharor gan ddweud: "Mae angen i'r carcharorion gael eu torri yn feddyliol ac yn gorfforol."

Mae'r BBC ar ddeall fod y negeseuon wedi eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr haf llynedd.

Dywed G4S, sy'n rhedeg Carchar y Parc ym Mhen-y-bont, fod ganddyn nhw bolisi "dim goddefgarwch" wrth ymateb i ymddygiad staff sydd heb gyrraedd eu safonau.

'Gobeithio y gwnaethon nhw ei frifo'

Mae un neges am garcharor yn dweud: "Fe wnaeth XXX agor y drws ac fe wnaethon nhw ei daro i mewn i'r gawod lol."

Mae ymateb i'r neges honno yn dweud: "Da iawn! Dwi'n gobeithio y gwnaethon nhw ei frifo hefyd."

Mewn neges wahanol, cafodd rheg ei ddefnyddio wrth ddisgrifio dyrnu carcharor "ar ôl iddo fy mrathu," ynghyd ag emoji chwerthin.

Roedd negeseuon eraill yn cynnwys jôcs am rywun oedd â risg o ladd ei hun a throseddwr arall oedd yn hunan-niweidio.

Roedd 17 o garcharorion wedi marw yng Ngharchar y Parc yn 2024 - mwy na mewn unrhyw garchar arall.

Mewn neges i bwyllgor cyfiawnder a'r Swyddfa Gartref yn Hydref 2024, fe wnaeth y Gweinidog carchardai James Timpson ddweud eu bod yn ymchwilio i'r carchar.

Fis Medi y llynedd, cafodd pedwar o swyddogion y ddalfa o fewn y carchar eu harestio ar amheuaeth o ymosod a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, yn dilyn adroddiadau o gyfres o ddigwyddiadau yn y carchar.

Mae'r pedwar wedi eu rhyddhau heb gyhuddiadau, meddai Heddlu De Cymru.

Dywedodd y llu bod un arall wedi ei arestio fis Ionawr eleni.

Cafodd dyn 36 oed o Lanelli ei ryddhau o dan ymchwiliad, tra bod dyn 35 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, dyn 40 oed o Abertawe, dyn 38 oed o'r Barri, dyn 50 oed o Daibach a menyw 23 oed o Gaerdydd wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ar gyfer ymholiadau pellach tan ddiwedd mis Ebrill.

'Rhan fwyaf o'n staff yn onest'

Dywedodd Prif arolygydd ditectif Heddlu De Cymru Dean Taylor: "Mae'r ymchwiliad yn parhau, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda G4S."

Dywed llefarydd ar ran G4S: "O'r pedwar unigolyn sydd wedi eu harestio a'u rhyddhau heb gyhuddiad gan Heddlu De Cymru, mae tri wedi eu diswyddo o'r cwmni ac mae un yn parhau wedi ei atal o'i swydd yn ddibynnol ar ddiben y broses disgyblu.

"Mae'r rhan fwyaf o'n staff yn gweithio'n galed ac yn onest. Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar unrhyw gam-wneud."

Wrth ymateb i'r negeseuon, fe ychwanegodd G4S: "Mae disgwyl i'n staff drin pawb ag urddas a pharch ac mae gennym bolisi dim goddefgarwch wrth ddelio ag unrhyw ymddygiad staff sydd ddim yn cyrraedd ein safonau."

Pynciau cysylltiedig