Pwy oedd yr ymgyrchydd Elizabeth Andrews?

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Elizabeth Andrews, yn y canolFfynhonnell y llun, Parasol media
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth Andrews, yn y canol

Mae cerfluniau o nifer o fenywod pwysig Cymru wedi cael eu creu ar draws Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cerfluniau o Betty Campbell, Elaine Morgan, Cranogwen a'r Arglwyddes Rhondda.

Mae prosiect Merched Mawreddog (Hidden Heroines) yn codi arian ar gyfer cerflun o'r ymgyrchydd Elizabeth Andrews ar hyn o bryd.

Ond pwy oedd Elizabeth Andrews?

Bywyd

Elizabeth Andrews

Cafodd hi ei geni yn Hirwaun yn 1882 ac mae hi'n enwog am frwydro dros hawliau merched a phlant ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Roedd hi'n un o 11 o blant mewn teulu oedd yn byw mewn tlodi yn ardal glo de Cymru.

Breuddwyd Elizabeth oedd i fod yn athrawes ond roedd rhaid iddi adael yr ysgol yn 13 mlwydd oed er mwyn helpu ei rhieni.

Roedd hi'n siarad Cymraeg ac yn benderfynol o ddod ag anghenion menywod dosbarth gweithiol i'r byd gwleidyddol. Roedd hi'n sosialwraig.

Symudodd i'r Rhondda yn 26 oed ac yno gwelodd y problemau cymdeithasol oedd yn wynebu ei chymuned.

Hi oedd y fenyw cyntaf i fod yn drefnydd Plaid Lafur Cymru. Roedd hi hefyd yn un o'r menywod cyntaf i fod yn ynad ym Mhrydain.

Roedd hi'n wraig i löwr ac felly roedd hi'n gwybod pa mor beryglus oedd y diwydiant i'r dynion. Ond dywedodd fod bywydau menywod mewn perygl hefyd wrth iddynt fyw gyda tai gorlawn, iechyd gwael a phlant oedd yn marw'n ifanc.

Roedd hi wedi helpu y glowyr yn ystod y Streic Gyffredinol yn 1926 ac yn ystod y dirwasgiad yn yr 1930au.

A gan nad oedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS), roedd Elizabeth hefyd wedi helpu gwella gofal mamolaeth a gofal plant, gan sefydlu gwasanaeth clinigau, bydwragedd, ymwelwyr iechyd ac un o'r ysgolion meithrin cyntaf erioed yng Nghymru.

Roedd menywod eraill yn adnabod hi yn syml iawn fel Ein Elizabeth.

Bu farw yn Tonpentre yn 1960.

Gallwch ddarllen mwy am y menywod ar wefan Merched Mawreddog

Geirfa

Cerfluniau / statues

Creu / create

Ymgyrchydd / campaigner

Geni / born

Brwydro / battle

Hawliau merched a phlant / women's and children's rights

Canrif / century

Tlodi / poverty

Ardal glo / coal mining area

Anghenion / needs

Dosbarth gweithiol / working class

Gwleidyddol / political

Sosialwraig / socialist

Cymdeithasol / social

Cymuned / community

Trefnydd / organiser

Ynad / magistrate

Glöwr / miner

Peryglus / dangerous

Diwydiant / industry

Perygl / danger

Gorlawn / overfull

Streic Gyffredinol / General Strike

Dirwasgiad / recession

Gofal mamolaeth / maternity care

Bydwragedd / midwives

Ysgolion meithrin / nursery schools

Pynciau cysylltiedig