'Nefoedd ar y ddaear': Ddoe a heddiw yn Ninas Dinlle

Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Llun o gasgliad preifat
  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r dydd ymestyn a'r tywydd gynhesu mae pentrefi glan môr ar hyd arfordir Cymru yn deffro eto wrth baratoi at y tymor twristiaid.

Un ohonynt yw traeth Dinas Dinlle yng Ngwynedd, sy'n hafan i lawer drwy gydol y flwyddyn ond sy'n denu heidiau o ymwelwyr o bell ac agos pan ddaw'r haf.

Fe fyddan nhw'n troedio'r un llwybrau a mwynhau'r un golygfeydd â chenedlaethau o ymwelwyr o'u blaen gan fod y traeth poblogaidd wedi bod yn lle i hamddena a chael awyr iach y môr ers dros 100 mlynedd.

Yn lle siwtiau gwlyb, dryrobes a campyrs heddiw mae hen gardiau post yn dangos pobl yr oes Edwardaidd yn cyrraedd gyda cheffyl a throl, y merched mewn hetiau crand a sgertiau llawn a'r dynion mewn siwtiau tywyll.

Mae un cerdyn o'r cyfnod yn dangos llanc ifanc yn eistedd ar ddarn o laswellt i gael tynnu ei lun; mae'r cefndir yn hawdd ei adnabod heddiw ond yn union lle mae'n eistedd mae maes parcio concrit newydd sbon Cyngor Gwynedd bellach a fydd yn llenwi gyda cheir yr haf maes o law.

Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Llun o gasgliad preifat
Disgrifiad o’r llun,

Hen gerdyn post yn dangos golygfa o Ddinas Dinlle gyda cheffyl a throl ar y lôn

Dinas Dinlle
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hen westy mawr ar y chwith yn dal yn adeilad amlwg iawn ar y traeth

Codi gwesty

Tua diwedd y 19eg ganrif gwelodd rhywun gyfle i wneud yn fawr o'r stribyn o dir ar hyd glan y môr ger pentref Llandwrog ac adeiladu clamp o westy yno, y Caernarvon Bay Hotel.

Erbyn 1905 roedd bythynnod gwyliau a dau gaffi yno hefyd.

Mae ysgrif yn y cylchgrawn Cymru o 1905 yn sôn bod bardd o'r enw Thomas Parry, neu Dinlle yn ôl ei enw barddol, yn rhedeg un o'r caffis yma, ac yn treulio'r haf yn gweini twristiaid a'r gaeaf yn cael llonydd i farddoni.

Roedd y caffis hyn, lle mae siopau'n gwerthu sglodion, hufen iâ a nwyddau glan môr heddiw, yn swatio dan 'Boncan Dinas'.

Bryngaer o oes yr haearn ydi'r boncan; dyma'r 'Dinas Dinlle', neu Ddinas Lleu, gwreiddiol sydd wedi rhoi ei enw i'r traeth a'r dreflan sydd bellach wedi datblygu yma. Dywedir mai caer Lleu Llaw Gyffes, y cymeriad chwedlonol o'r Mabinogi, oedd hi.

Arwydd

Yng nghyfnod Thomas Parry mae'n debyg bod yn rhaid talu i gerdded i fyny'r bryncyn ac ar un cyfnod roedd cwrs golff wedi ei greu ar y top!

Heddiw mae'r safle hanesyddol yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae modd mynd i ben y bryn yn rhad ac am ddim i edmygu'r olygfa a gweld olion y tŷ crwn dros 2,000 o flynyddoedd oed a gafodd ei ddarganfod yma gan archaeolegwyr yn 2021.

Fel gweddill y darn yma o arfordir mae'r môr a'r elfennau yn erydu'r boncan a'i gyfrinachau archaeolegol yn gyflym, gyda thraean o'r fryngaer wedi diflannu i'r tonnau yn barod.

Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Lluniau o gasgliad preifat
Disgrifiad o’r llun,

Dinas Dinlle trwy'r oesoedd

Wedi'r Rhyfel

I Buddug Jones, oedd yn byw yn Ninas Dinlle yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y lle'n "nefoedd ar y ddaear".

"Fanno oedd fy nghartref cynta'," meddai wrth Cymru Fyw. "Ges i fy ngeni yn 1943, roedd fy nhad i ffwrdd yn y rhyfel yn yr Almaen ac roedd Mam yn byw efo'i rhieni yn Ninas Dinlle. Roedd ei thad hi'n rhedeg busnes olew ac roedd rhaid iddi hi fynd i'r swyddfa yng Nghaernarfon oherwydd bod na brinder dynion. Ac felly Nain fagodd fi."

Dynes yn eistedd ar fainc
Disgrifiad o’r llun,

Mae byw yn Ninas Dinlle fel plentyn wedi magu cariad oes at y môr i Buddug Jones

Roedd teulu Mrs Jones yn byw mewn tŷ o'r enw Gwyddonfa, drws nesa' i fferm Morfa Coch, i lawr y ffordd o ble mae caffi Braf heddiw.

Roedden nhw'n cael llefrith o'r fferm ac wyau a thomatos gan eu cymdogion drws nesa' a thaid Buddug Jones yn cyflenwi paraffin i'r gymuned ar gyfer lampau olew; roedd llai o dai yno ond roedd yna deimlad o gymdeithas meddai.

Roedd creu safle'r Awyrlu ym mhen pellaf y traeth wedi creu bwrlwm o fynd a dod yno.

Cyfuniad o luniau
Disgrifiad o’r llun,

Ar y chwith: Buddug yn y blaen, gyda'i nain, ei mam a'i chwaer ar y ffordd o flaen Gwyddonfa ac adeiladau fferm Morfa Coch yn y cefndir.

Ar y dde: Gwyddonfa yw'r tŷ agosaf at Barc Carafanau Dinlle, sef fferm Morfa Coch ers talwm

"Roedd y lle'n nefoedd ar y ddaear," meddai Mrs Jones. "Roeddan ni'n gwisgo'n gwisg nofio, lliain dros ein hysgwyddau a cherdded yn droednoeth lawr i lan môr, doedd dim angen poeni bod 'na gar yn dod na dim byd.

"Yr adeg honno hefyd, ar ben y lôn, mi roedd na gwt coastguard, gyferbyn â'r troad i lawr."

Parc Carafanau Dinlle yw fferm Morfa Coch bellach a Gwyddonfa yn dŷ gwyliau hefyd.

Pan fydden nhw'n mynd i'r môr, mae'n cofio ei hewythr yn diflannu am bron i awr ac yn "nofio cyn belled â'r gorwel ac yn ôl," a'i mam hefyd yn gwneud yr un fath.

Dinas Dinlle

Fel heddiw, os oedd yr haul yn gwenu byddai pobl yr ardal yn heidio yno meddai Buddug Jones. "Roedd pobl yn dod yno ar eu gwyliau ac roedd plant a phobl Caernarfon yn Dinas Dinlle os oedd hi'n braf. Roedd y bysus yn mynd bob ryw awr."

Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Llun o gasgliad preifat
Dinas Dinlle
Disgrifiad o’r llun,

Yr un lleoliad ond y ceir a'r maes parcio wedi newid a'r fryngaer wedi erydu dros y degawdau

Yn ei harddegau, a hithau erbyn hynny yn byw gyda'i rhieni yng Nghaernarfon ond yn dal i ymweld yn gyson, mae Mrs Jones yn cofio o leiaf ddwy siop yno a dau westy – y Caernarvon Bay a Bryn Môr – yn ogystal â llawer iawn llai o garafanau.

Gwesty Bryn Môr
Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Llun o gasgliad preifat

Mwy o bobl

Un cae o garafanau oedd gan y fferm drws nesa' pan oedd hi'n blentyn, erbyn hyn mae'n un o dri maes carafanau ac yn eiddo i gwmni gwyliau gyda phwll nofio, bar a champfa yno.

"Mae 'na fwy o garafanau yno rŵan, mae'r maes carafanau reit fawr, mae 'na lot mwy o bobl yno bellach yn yr haf," meddai.

Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Llun o gasgliad preifat
Carafannau

Athrawes oedd Buddug Jones cyn ymddeol ac er iddi symud i ffwrdd ac ymgartrefu ym Mae Penrhyn roedd Dinas Dinlle yn dal i'w denu bob gwyliau a hithau'n mynd â'i phlant ei hun yno i aros yn yr haf.

Ar ei phen-blwydd yn 80 mlwydd oed fe logodd ei hen gartref, Gwyddonfa, am wythnos ym mis Gorffennaf a dathlu yno gyda'i theulu.

Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Llun o gasgliad preifat

Mae Buddug Jones wedi gweld newid mawr dros ei hoes yn Ninas Dinlle: mwy o dai a charafanau, yr ymdrechion ofer i atal erydiad y traeth a'r tir, y glaswellt yn troi'n faes parcio caled gyda wal a llwybr cerdded llydan ar ei ben yn ei wahanu oddi wrth y traeth.

Ond mae'r dynfa yno yn dal yr un fath a bydd yn dal i fwynhau mynd yno am dro neu i aros.

"Gydag ail-wneud y llefydd parcio maen nhw wedi ei wneud o'n fwy commercial rŵan," meddai am y bennod ddiweddaraf yn hanes y traeth, sef cynlluniau posibl Cyngor Gwynedd i godi tâl ar bobl am barcio yno.

Mae rhai pobl leol wedi mynegi eu pryder am y syniad ac mae'r Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad ynglŷn a'i reolaeth o'r maes parcio, ar ôl treialu'r drefn o godi yno dros haf 2024.

Nid yw canlyniad yr ymgynghoriad wedi ei gyhoeddi eto ond mae'r peiriannau talu eisoes yn sefyll yn y meysydd parcio.

Os ydyn nhw'n bwrw mlaen, bydd yn bennod newydd ond nid yn bennod olaf yn esblygiad parhaus y traeth poblogaidd.

Pynciau cysylltiedig