Cofio cael fy arestio ar gam yn ystod ymgyrch Meibion Glyndŵr

Robert Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Robert Griffiths - un o'r degau gafodd ei arestio yn ystod cyrch Sul y Blodau 1980

  • Cyhoeddwyd

Pedwar deg pump o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth yr heddlu arestio 50 o bobl ar draws Cymru fel rhan o Operation Tân i geisio dod o hyd i aelodau Meibion Glyndŵr.

Fe gafodd Cyrch Sul y Blodau, fel cafodd ei galw, ei feirniadu yn ddiweddarach am dargedu degau o genedlaetholwyr ac ymgyrchwyr gwleidyddol asgell chwith yn ddi-sail a heb dystiolaeth eu bod yn rhan o'r ymgyrch losgi.

Un o'r rhai gafodd ei arestio yn ystod y cyrch toriad gwawr ar 30 Mawrth 1980, cyn cael ei rhyddhau yn ddi-gyhuddiad oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Prydain, Robert Griffiths.

Dynion tan a ty wedi ei losgi
Disgrifiad o’r llun,

Dros gyfnod o 12 mlynedd roedd 228 digwyddiad wedi eu cysylltu gydag ymgyrch Meibion Glyndŵr

Ar y pryd roedd yn ysgrifennydd Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymru ac wedi bod yn cael ei holi ar raglen deledu Nationwide am yr ymgyrch losgi, wnaeth ddechrau ddiwedd 1979.

Meddai ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru: "Wedes i [mewn cyfweliad] bod pob dull arall i godi'r broblem ac i brotestio yn erbyn tai haf yng Nghymru wedi ildio dim byd o ran canlyniadau ac felly wedes i rywbeth fel dyw e ddim yn syndod bod rhai pobl yn troi at y llosgi ar ôl i bob dull arall fethu.

"Falle oedd hynny yn ddigon i roi esgus i'r heddlu."

Murlun gyda graffiti Meibion Glydnwr arno
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymgyrch Meibion Glyndŵr bara o 1979 tan y 90au cynnar

Holi am fatris oedd yn ei gartref

Roedd yn byw yn ardal y Rhath o Gaerdydd ar y pryd ac fe gafodd o a tua dwsin eraill o aelodau'r mudiad eu harestio.

Fe gafodd ei gartref ei chwilio ac aeth yr heddlu ag o i un o'u gorsafoedd yn y brifddinas er mwyn ei holi.

Meddai: "Ges i fy nal yno am fwy na 24 awr os fi'n cofio'n iawn ac roedde nhw'n croesholi fi am ychydig o bethau oedde nhw wedi ffeindio yn y tŷ - ond pethe cyffredin oedde nhw, y fath o bethau fasa ti'n gallu ffeindio ym mron bob tŷ yng Nghymru.

"Sticky tape, gwifrau, batri, hen fatri o'r torch oedde nhw wedi ffeindio o dan y gwely os fi'n cofio'n iawn."

Fe gafodd o a'i gyd-aelodau i gyd eu rhyddhau yn ddiamod.

Dynion tan mewn ty yn mudlosgi
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr ymgyrchwyr yn llosgi ail gartrefi yn y blynyddoedd cynnar, cyn dechrau gyrru dyfeisiau ffrwydrol yn y post i wleidyddion ac arwerthwyr tai

Fe wnaeth yr ymgyrch llosgi ddechrau ar 13 Rhagfyr 1979 pan losgwyd dau dŷ yng Ngwynedd a dau yn Sir Benfro.

Gyda diweithdra yn cynyddu ar y pryd, roedd nifer o bobl leol yn methu fforddio prynu tai. Roedd bythynnod a thai yng nghefn gwlad Cymru hefyd yn apelio at bobl oedd yn gallu fforddio ail-gartrefi - yn eu plith, roedd nifer o brynwyr o Loegr.

Roedd yr ymosodiadau yn cael eu gweld fel ffordd o brotestio yn erbyn hyn a diogelu cymunedau Cymraeg.

Gwreichion ar BBC Sounds

Oes rhywun yn rhywle'n gwybod? Cyfres podlediad am Meibion Glyndŵr

Fe wnaeth yr ymosodiadau, a gafodd eu galw'n ymgyrch Meibion Glyndŵr, barhau gydol yr 80au a 90au, gyda 228 ymosodiad yn cael eu cofrestru yn ystod y cyfnod.

Roedd yr heddlu o dan bwysau drwy gydol y cyfnod i ddal y rhai oedd yn gyfrifol ac yn gynnar yn yr ymgyrch, ar Sul y Blodau 1980, fe wnaeth cyrchoedd cydlynol gan gangen arbennig a swyddogion heddlu dargedu tua 50 o bobl ledled Cymru.

Cadarnhau daliadau gwleidyddol

Oherwydd y diffyg tystiolaeth cyn arestio, fe gafodd yr heddlu eu beirniadu am arestio yn ddi-sail - ac yn ôl Robert Griffiths fe wnaeth y cyfan gryfhau safbwyntiau gwleidyddol.

Meddai: "Roedd e'n cadarnhau yn fy meddwl i beth oeddwn i'n ymladd drosto - hynny yw, y methiant i wneud unrhyw beth o ddifri am broblemau economaidd, diwylliannol ac ieithyddol Cymru o achos roedd yr awdurdodau wedi mynd dros ben llestri yn ystod y gweithrediad hwn.

"Gawson nhw eu condemnio gan lawer o leisiau yng Nghymru. Roedd y Welsh Campaign for Civil and Political Liberties wedi ei sefydlu i edrych i mewn i'r sefyllfa a wnaethon nhw drefnu tribiwnlys gyda'r Arglwydd Gifford.

"Roedd eu hadroddiad yn condemnio'r heddlu yn chwyrn - fel roedd Aelodau Seneddol a phobl eraill ar y pryd."

Pynciau cysylltiedig