Hanes Catrin o Ferain - Mam Cymru

Catrin o FerainFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Galwyd Catrin o Ferain yn Fam Cymru

  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos bydd teuluoedd ar draws Cymru'n nodi Sul y Mamau.

Tua 500 mlynedd yn ôl cafodd un ddynes ei galw'n Fam Cymru - Catrin o Ferain.

Hi oedd un o'r menywod cyntaf i i ymddangos mewn cofnod ysgrifenedig yng Nghymru ond pam yr enw Mam Cymru?

Etifeddu

Unig blentyn Tudur ap Robert Fychan a Jane Velville oedd Catrin.

Ganwyd hi yn 1534 yn etifeddes i diroedd eang Sir Ddinbych ac Ynys Môn.

Roedd hi'n amlwg iawn mewn cofnodion o'r cyfnod a hynny gan ei bod hi'n fenyw mor gyfoethog.

Petai brawd ganddi, ni fyddai wedi etifeddu'r tir, ond hi oedd yr unig blentyn a gafodd y cwbl.

Roedd hynny yn ei gwneud yn ddeniadol iawn ar gyfer gwŷr, dyna pan oedd llawer eisiau ei phriodi.

Fe briododd bedair gwaith i mewn i deuluoedd mwyaf dylanwadol oes y Tuduriaid ac fe wnaeth y priodasau strategol yma sicrhau mai Catrin oedd menyw gyfoethocaf ei dydd yng Nghymru.

Ar un cyfnod, roedd gan Catrin 3000 acer o dir ac yn gwneud incwm o £100 y flwyddyn, arian syfrdanol yn y cyfnod.

Richard CloughFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Sir Richard Clough oedd ail ŵr Catrin o Ferain

Roedd y ffaith iddi briodi cymaint o ddynion wedi arwain at y canfyddiad ei bod fel rhyw bry cop du oedd yn lladd ei gwŷr cyn symud ymlaen at y nesaf.

John Salsbury, oedd yn berchen ar ystâd gyfoethog Lleweni ar gyrion Dinbych a fu farw yn 1566 oedd ei gŵr cyntaf.

Yr ail oedd, Syr Richard Clough, oedd yn fasnachwr llwyddiannus, ac yn flaenllaw yn y byd bancio, a fu farw yn 1570.

Morus Wynn o Wydir ger Llanrwst oedd y trydydd gŵr, sef tad Syr John Wynn. Daeth y teulu Wynn yn un o deuluoedd mwyaf pwerus gogledd Cymru. Bu farw Wynn yn 1580.

Roedd Catrin wedi cael oleiaf dau o blant gyda phob un o'i tri gŵr cyntaf.

Gadawodd Morus Wynn ffermydd i Catrin yn arglwyddiaeth Dinbych a Sir Feirionnydd, yn cynnwys ei eiddo yn Llanefydd.

Un o dystion ewyllys Morris Wynn oedd Edward Thelwell, Plas y Ward, a daeth ef yn bedwerydd gŵr iddi.

Mam Cymru

Roedd Thelwell yn ddisgynnydd i'r Normaniaid a dderbyniodd Ddyffryn Clwyd fel rhodd gan Edward I, yn cynnwys Castell Rhuthun, a ddaeth yn gartref i'r teulu.

Unwaith eto trefnwyd priodas ddwbl - Catrin ac Edward, a merch Catrin o'i thrydedd briodas a Simon, mab Edward o'i briodas gyntaf.

Hon fyddai priodas olaf Catrin. Bu farw ddiwedd Awst 1591. Er iddi gael pedwar gŵr, nid oedd ond ychydig dros ei hanner cant oed.

Gadawodd chwech o blant, tua 16 o lysblant, tua 32 o wyrion ac wyresau ac ugeiniau o ddisgynyddion eraill.

O ganlyniad fe'i galwyd yn Fam Cymru.

500 mlynedd ar ôl ei geni, rydym yn dal i geisio dyfalu sut fenyw oedd Catrin.

Y femme fatale oedd yn priodi fel gyrfa? Y Fenyw fusnes? Neu'r fam garedig a rhinweddol?

Roedd hi'n anghyffredin o ddylanwadol ac yn unigolyn nodedig yn hanes Cymru.

Pynciau cysylltiedig