Car dyn wedi'i ddwyn ar ôl iddo dreulio noson yn yr ysbyty wedi ymosodiad

Fe dorrodd Mr Williams ei ysgwydd, ei drwyn ac roedd ganddo lygaid du ar ôl ymosodiad arno yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd Alan Chappell-Williams yn cerdded adref o ganol Caerdydd y llynedd ar ôl bod allan am noson gyda ffrind pan wnaeth rhywun ymosod arno.
Cafodd ei ffôn symudol, ei waled a'i oriadau eu dwyn ac ar ôl treulio'r noson yn yr ysbyty fe ddaeth adref. O fewn munudau i hynny roedd ei gar wedi ei ddwyn.
Roedd ei gerbyd ymysg dros 4,000 a gafodd eu dwyn yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024 – cynnydd o 31% mewn deng mlynedd, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref.
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod yn benderfynol o leihau'r nifer o gerbydau sy'n cael eu dwyn.
'Andros o sioc'
Ym mis Mai 2024, cafodd Mr Williams ei guro yn anymwybodol gan ddau ddyn yn ardal Glan-yr-afon o'r ddinas.
"Roedd o yn andros o sioc," meddai. "Ti ddim yn clywed am bethau fel hyn yn digwydd yng Nghaerdydd yn aml."
Fe dorrodd ei ysgwydd, ei drwyn ac roedd ganddo lygaid du.
Dydi o ddim yn cofio'r ymosodiad yn digwydd a phan ddeffrodd fe sylweddolodd ei fod yn yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Tua 07:30 y bore canlynol fe gyrhaeddodd adref a rai munudau yn ddiweddarach roedd ei gar wedi ei ddwyn gan yr ymosodwyr.
"Roedden nhw wedi defnyddio'r cyfeiriad oedd ar fy nhrwydded gyrru ac wedi dod i ffeindio'r car"
Mae Mr Williams yn credu bod yr ymosodwyr yn gwybod ble roedd yn byw gan fod ei drwydded yrru wedi ei dwyn yn ystod yr ymosodiad.
Mae'n dweud ei bod yn anodd gwybod beth oedd y rhesymau y tu ôl i'r ymosodiad.
"Mi gafodd y car ei ffeindio mewn ryw garej 'cut and shut'.
"Oedd o'n rhan o ryw organised crime gang sy'n gwneud chdi feddwl i'r car fod wedi diflannu o fewn diwrnod mewn i system fel yna... oedden nhw o leiaf yn gwybod sut i'w gael o mewn i'r system yna."
Fe blediodd y ddau ymosodwr yn euog o ladrata ac fe blediodd un yn euog o ddwyn cerbyd modur. Dydyn nhw ddim wedi cael eu dedfrydu eto.

Roedd cerbyd Alan Chappell-Williams ymysg dros 4,000 a gafodd eu dwyn yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024
Yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Gartref, cafodd 4,267 o gerbydau eu dwyn yng Nghymru yn 2023-24 o'i gymharu â 3,238 yn 2014-15.
Llu Heddlu Gwent welodd y cynnydd mwyaf mewn troseddau yn yr un cyfnod – i fyny o 670 i 1,290 – codiad o 92%.
Mae dyfeisiadau electroneg soffistigedig yn cael eu defnyddio gan droseddwyr mewn 40% o achosion dwyn ceir yng Nghymru a Lloegr, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Un o'r technegau mwyaf cyffredin sy'n cael ei ddefnyddio gan ladron ydi beth sy'n cael ei alw yn relay attack.
Mae'n golygu bod dyfais yn cael ei ddefnyddio i ganfod ac i ehangu signal y goriad heb orfod dwyn y goriad na thorri mewn i'r eiddo.
'Hawdd cael gafael ar dechnoleg lladron'
Mae diogelwch ceir yn un o'r gwasanaethau sy'n cael ei gynnig gan Garej Arwyn ym Mhenygroes yng Ngwynedd.
"Mae'r dechnoleg sydd gan ladron rŵan mor hawdd i gael gafael ar," meddai Sion Llwyd, un o'r gweithwyr yno.
"Mae o'n gwneud o'n haws iddyn nhw allu ei ddwyn o. Y ffaith bo nhw'n gallu prynu fo mor hawdd… mae o'n rhoi ein cwsmeriaid ni mewn lle fwy vulnerable."

"Mae yna bris mawr ar y ceir yma ac mae pobl yn gallu gwneud lot o bres drwy eu dwyn," meddai'r Arolygydd Gerallt Hughes
Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod nifer o geir wedi eu targedu eleni yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg.
Dywedodd yr Arolygydd Gerallt Hughes fod hynny'n bryder i'r llu.
Pan ofynnwyd beth oedd y rheswm dros y cynnydd ar draws Cymru, dywedodd: "Lot o'r amser jyst pobl yn cymryd y cyfleoedd. Mae yna bris mawr ar y ceir yma ac mae pobl yn gallu gwneud lot o bres drwy eu dwyn.
"Mae'n bwysig wedyn ein bod ni'n gallu gwneud beth bynnag allwn ni i stopio hynny rhag digwydd."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod dwyn cerbydau yn cael effaith enfawr ar bobl a chymunedau.
"Ers yn rhy hir mae nifer o ddioddefwyr yn teimlo nad oes digon yn cael ei wneud i atal eu cerbydau rhag cael eu dwyn, neu ddal y rheiny sy'n gyfrifol.
"Yn ein Mesur Trosedd a Heddlu newydd, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth i wahardd dyfeisiadau electroneg sy'n cael eu defnyddio i ddwyn cerbydau, gan roi pwerau i'r heddlu a'r llysoedd i dargedu'r troseddwyr sy'n eu defnyddio, eu creu a'u darparu."