'Newid neu farw': Arweinwyr yn trafod dyfodol capeli

Bydd Capel Maengwyn, Machynlleth, yn cau ymhen rhai dyddiau
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol cannoedd o gapeli wedi ei drafod ddydd Mercher wrth i 120 o arweinwyr eglwysig ac arbenigwyr ddod at ei gilydd mewn cynhadledd arloesol yn Llandudno.
Yn ystod trafodaethau'r dydd roedd llawer o bwyslais ar le'r eglwys ynghanol y gymuned.
Mae'n rhaid newid neu wynebu "marwolaeth", medd Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
"Ar hyn o bryd rydym yn berchen ar dros 800 o adeiladau gan gynnwys capeli a thai," ychwanegodd Nan Wyn Powell Davies.
"Mae'r gwaith rheoleiddio a chynnal a chadw cynyddol ar yr adeiladau hyn yn disgyn ar lai a llai o aelodau hŷn a ffyddlon o fewn y gynulleidfa.
"Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig a strategol i'n henwad."

Y cynadleddwyr yn Llandudno fore Mercher
Yn ystod y gynhadledd cafodd straeon calonogol eu rhannu hefyd.
Roedd yna adroddiadau, er enghraifft, am addasu Moreia, Llangefni ar gyfer gwaith cymunedol ac am sefydlu achosion newydd yn Llandysul a Blaenau Ffestiniog.
Fore Mercher fe wnaeth Ieuan Wyn Jones bwysleisio sut oedden nhw wedi gwneud arolwg o anghenion Llangefni cyn dechrau ar y gwaith o addasu Moreia.
Mae'r Ffynnon yn Llandysul yn fan cymunedol a bu Steff Morris yn pwysleisio pa mor bwysig yw creu lleoedd o'r fath.

"Mae'n ddyletswydd ar Gristnogion i weithredu er lles eu cymuned," medd Dafydd Iwan
Wrth annerch y gynhadledd fe alwodd Dafydd Iwan ar gymdeithasau tai i addasu adeiladau gan gynnwys capeli yn dai cymdeithasol.
"Mae'n ddyletswydd ar Gristnogion i weithredu er lles eu cymuned," meddai.
Dywedodd hefyd fod angen newid agwedd cymdeithas a bod angen gweld tai fel cartrefi ac nid fel asedau ariannol a phwysleisiodd bod angen cynnal trafodaethau gyda Cadw a'r Comisiwn Elusennau.
Roedd yna sylw yn y prynhawn gan Elfed Lewis a Graham Thomas ar sut i wneud adeiladau yn amgylcheddol gyfeillgar ac fe wnaeth Adam Hitchings gyfeirio at gymorth sydd i'w gael gan gymdeithas AHF Transforming Heritage.
Miloedd yn llai o aelodau
Bwriad y gynhadledd a oedd yn cynnwys arweinwyr eglwysig, arweinwyr elusennau a busnesau, arloeswyr cenhadol ac arbenigwyr adeiladu oedd trafod sut mae modd addasu hen adeiladau ar gyfer y Gymru fodern.
Ddydd Sul, 6 Ebrill bydd Cymanfa Ganu yng nghapel Maengwyn, Machynlleth, i nodi cau'r capel.
Oherwydd costau cynnal a chadw'r adeilad urddasol ynghanol y dref, penderfynwyd bod rhaid cau'r adeilad ac i'r eglwys barhau mewn man arall.
Mae'n enghraifft arall o'r dirywiad.

Bellach nid yw cau capeli mawr a fu yn ddylanwadol iawn yn eu bröydd yn ddigwyddiad dieithr.
Mae trawsnewid capel Salem Pwllheli yn weithdy crochenydd a chartref wedi bod yn gyfres deledu boblogaidd.
O Gaergybi i Gaerdydd, yr un yw'r stori - cau capeli a chyflwr yr adeiladau yn gwaethygu.
Mae'r ystadegau yn adrodd y stori'n glir. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae aelodaeth y Presbyteriaid wedi gostwng o 30,000 i 13,000.
Rhwng 2005 a 2017, roedd y gostyngiad blynyddol mewn aelodaeth yn 5% ond erbyn 2022 fe wnaeth y gostyngiad gynyddu i 12%.
Mae cau eglwysi wedi cyflymu yn enwedig ers Covid. Yr un yw'r stori yn yr enwadau eraill hefyd, a'r un yw'r argyfwng adeiladau.
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2024
Dywedodd y Parch Nan Powell-Davies: "Allwn ni ddim parhau fel hyn. Mae hi'n amser rŵan ar gyfer breuddwydion newydd a chynlluniau dewr.
"Mae heriau bod yn gymuned Gristnogol yng Nghymru yn 2025 yn wahanol iawn i'r rhai ganrif a mwy yn ôl.
"Mae'n rhaid inni addasu ar gyfer y cyfleon newydd sydd gennym, neu fe fyddwn yn diflannu oddi ar lwyfan hanes."
Y gobaith yw bod y negeseuon cadarnhaol a chreadigol a rannwyd yn cyfrannu tuag at gadarnhau'r iaith, gwasanaethu cymuned a sicrhau lle i bobl addoli.