Cwmni a chysur radio cymunedol, mewn cyfnod ansicr i ddarlledu

- Cyhoeddwyd
Ers 18 mis, mae Dafydd Furnham wedi bod yn brentis gyda BBC Radio Cymru. Ond dechreuodd ei gariad tuag at ddarlledu flynyddoedd yn ôl wrth weithio gyda gorsaf radio cymunedol Bro Radio yn Y Barri.
Mewn cyfnod ble mae dyfodol nifer o orsafoedd radio yn y fantol, dyma Dafydd i egluro gymaint sydd gan radio cymunedol ei gynnig.

Mae Bro Radio yn un o naw gorsaf radio annibynnol yng Nghymru.
O Bontypridd i Ynys Môn, mae gorsafoedd radio cymunedol yn cadw cwmni a chwarae cerddoriaeth i gynulleidfa o filoedd.
Mae 'na tua 300 ohonyn nhw ledled y Deyrnas Unedig, a phob un yn chwarae rôl 'hynod' yn ôl Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoleiddiol yng Nghymru i Ofcom.
"Mae naw ohonyn nhw yng Nghymru, ac wyth ohonyn nhw, yn ddiddorol iawn, ag ymrwymiadau rhaglenni iaith Gymraeg," eglurai.
"Mae'r gorsafoedd yn cael eu rheoli a'u rhedeg gan bobl leol, a'r rhwydwaith o orsafoedd cymunedol wedi chwarae rhan hynod o ddiddorol yn nhirwedd radio yng Nghymru ers yn agos at 25 o flynyddoedd erbyn hyn."

Mae Elinor Williams yn Bennaeth Materion Rheoleiddiol yng Nghymru.
Dau o'r 'bobl leol' hynny yw Dafydd Griffith a Tomos Dobson o orsaf MônFM. Mae'r ddau yn pwysleisio pa mor bwysig yw gorsafoedd radio annibynnol i'w cymunedau, a'r cyfleoedd mae gorsaf fel MônFM yn ei gynnig iddynt.
Yn ôl Dafydd, un o uchafbwyntiau gwaith yr orsaf yw darlledu'n fyw o du allan i'r stiwdio.
"Dyna 'dan ni'n ffeindio ma'r bobl yn ei fwynhau – bod ni allan yn y gymuned yn siarad efo nhw, a dwi'n meddwl mai ni yw un o'r unig orsafoedd radio sy'n gallu neud hynny yn y Gymraeg a Saesneg.
"'Da chi'n cael clywed straeon pobl 'sa chi ddim yn clywed fel arfer, pobl fasa ddim yn meddwl ffonio mewn ar y radio, a ma' nhw'n mwynhau rhannu nhw hefyd," meddai.
"Dyna 'dan ni'n ffeindio ma'r bobl yn ei fwynhau – bod ni allan yn y gymuned yn siarad efo nhw."
Pwysigrwydd radio cymunedol ar Raglen Aled Hughes, BBC Radio Cymru
Mae Tomos Dobson yn cytuno, gan ychwanegu fod yr orsaf hefyd yn blatfform hygyrch ar gyfer pobl sydd byth wedi ymwneud â radio o'r blaen.
"Be' sy'n wych am MônFM ydy pobl gyffredin sy'n cyflwyno. Elli di fod yn cerdded lawr stryd ym Mangor prynhawn fory, erioed wedi 'neud dim byd ar radio o'r blaen, ond mi fedri di, ddiwrnod wedyn fod yn 'neud sioe fyw ar MônFM.
"Dwi'n teimlo'n hynod o falch bod yn gadeirydd MônFM a bod ni'n gallu 'neud hwnna; mae'n rhoi'r cyfla yna i bobl byse byth bythoedd yn cael y cyfla nunlle arall," meddai.

Mae Tomos Dobson yn "hynod o falch" o fod yn gadeirydd MônFM
Mae Angharad Rhiannon yn gantores a chyfansoddwraig sy'n cyflwyno Y Sioe Gymraeg ar Radio Bro, ac mae hi'n pwysleisio pa mor bwysig yw elfen leol radio cymunedol.
"Dwi'n rhoi cyfleoedd i fandiau lleol, dwi'n hybu digwyddiadau Cymraeg lleol, a dwi'n meddwl fod hynny'n bwysig hefyd; falle byse nhw ddim yn cael platfform fel arall os nad oedd radio cymunedol yn bodoli," meddai.
Dyna yw radio cymunedol. Mewn cyfnod ansicr i ddarlledu radio yng Nghymru, mae'r gorsafoedd yma yn mynd i ddal ati, yn gwmni ac yn gysur i'w cymunedau.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Awst 2024
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022