Byw gyda MS: 'Gwerthfawrogi pob eiliad gyda Mam'

Guto a'i fam Gaynor
- Cyhoeddwyd
"Dyna beth i fi wedi dysgu wrth weld Mam yn mynd yn sâl – raid i ti joio bob eiliad – s'mo ti'n gwybod beth sydd rownd y gornel."
Cafodd Gaynor Davies, mam Guto Davies o Benparc, Ceredigion ddiagnosis sglerosis ymledol (MS) pan oedd Guto yn 11 mlwydd oed.
Ar ddechrau'r flwyddyn siaradodd Guto, sydd bellach yn 29 ac yn gweithio yng nghaffi Crwst, Aberteifi am ei berthynas â'i fam a'i rôl fel gofalydd iddi ar y gyfres ddetio Amour & Mynydd ar S4C.
Ar Sul y Mamau, Cymru Fyw fu'n sgwrsio â'r ddau am fyw bywyd gyda MS a sut maent yn cynnal a chefnogi ei gilydd.
Diagnosis 'a pethe'n newid'
Mae MS yn gyflwr sy'n effeithio'r ymennydd a'r asgwrn cefn. Ers diagnosis Gaynor bron i ugain mlynedd yn ôl mae Guto wedi gweld ei fam yn dirywio – yn colli ei gallu i gerdded, i gofio, a gwneud tasgau dydd i ddydd:
"Mae lot yn newid mewn 18 mlynedd. Mae ffili cerdded, mae mewn cadair olwyn – sdim cof hi â stwff yn grêt.
"S'mo hi'n gallu defnyddio ffôn felly mae rhywbeth fel newid sianel teledu yn bach o strygl. Hyd yn oed wrth afael te neu goffi mae hi'n crynu tamed bach.
"Mae hi dal yn gallu bwyta ac yfed bwyd. Mae hi'n ocê, mae hi ar feddyginiaeth da felly dyw hi heb waethygu lot dros y blynyddoedd diwetha' sy'n beth da," eglurodd.

Guto a'i fam yn ystod y blynyddoedd cyn ei diagnosis
Ac yntau ond yn fachgen 11 mlwydd oed ar y pryd, mae Guto'n cofio'r diwrnod "pan nath pethe newid" iddo a'i frawd mawr, Dan.
"Aeth Mam a Dad i barti priodas a fi'n cofio mynd mewn i weld shwt o'n nhw bore ar ôl 'ny a oedd Mam yn crio ar y gwely a Dad gyda dished o de iddi.
"O'n i'n sylweddoli bod rhywbeth yn bod – oedd coese Mam wedi bod yn stiff y nosweth cyn 'ny a fi'n credu pennies dropped tamed bach ond do'n i'm yn gwbod lot ac yn holi pam bod Mam yn llefen.
"Wrth i amser fynd ymlaen nath Dad dorri'r newyddion bod Mam yn sâl a gyda MS."
Tan hynny roedd bywyd yn fêl i Guto. Mae e'n adlewyrchu ar y newid a ddaeth i'w fywyd dros nos ac yntau ond yn blentyn:
"Ges i a 'mrawd blentyndod itha normal, hapus. Mam a Dad yn rieni arferol – o'n i'n cael popeth, lot o hwyl a sbri, atgofion da.
"Oedd Mam yn stay at home Mam yn bennaf – oedd hi'n 'neud bach o lanhau fel swydd ond prif swydd hi oedd gofalu ar ôl y tŷ, golchi kit rygbi a pêl-droed ni, ffîdo ni, oedd hi'n mwynhau 'neud stwff fel'na.

Mae Gaynor wedi bod yn byw gyda MS ers deunaw o flynyddoedd.
"Pan inni'n gofyn i Mam weithie beth mae hi'n gweld isie mwya' ers dirywio – mae'n gweud 'sgrwbo dillad a stwff' achos 'na beth oedd hi wir yn joio neud. Mae'n berson syml a di-ffys.
"Sa' i'n cofio shwt oedd ymateb fi ar y dechre. Fi jest yn cofio Mam yn crio lot, oedd hi'n dirywio'n ara'.
"Oedd hi'n crio ar bopeth ac oedd fi a brawd fi'n mynd yn itha embarasd a rhwystredig ac yn gweud 'pam ti'n llefen to'.
"Oedden ni ddim yn sylweddoli pryd 'ny faint o big thing yw e, a'r effaith hefyd ar iechyd meddwl Mam. Oedd e'n anodd deall be' oedd yn mynd ymlaen."
'Ma' fe'n gwd mab!'
Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, mae Guto a Gaynor wedi dygymod er gwaetha'r MS.
Wrth holi Gaynor sut fab yw Guto, meddai: "Mae fe'n gwd mab! No complaints. Oedd e'n ddrwg pan oedd e'n blentyn. Fi'n prowd ohono fe. Mae e'n ofalydd da. A fi moyn iddo fe fyw ei fywyd."
Dywed Guto mae ei fam "yw'r fenyw gryfa'" mae'n adnabod.
"Mae Mam jest moyn i fi a 'mrawd i fod yn hapus – s'mo hi moyn bod yn fwrdwn arnon ni na neb," meddai.
"Dyw hi byth yn cwyno, byth yn conan a dim byd fel'na. Weithie bydde ni'n dymuno bo' hi'n conan bach mwy. Me hi jest yn clatsho bant."

Gaynor a'i meibion Guto a Dan
Yn ei amser hamdden mae Guto'n hoff o gerdded ei gi, Gus a chwarae pêl-droed a rygbi. Ond mae'n cyfaddef bod cyfnodau anodd wrth iddo fyw adref yn gofalu am ei fam, gweithio a rhoi amser i'w fywyd cymdeithasol:
"Ti moyn byw dy fywyd a weithie mae'n anodd gadel i ffwrdd achos ti'n gwbod un Mam ti'n gael – ti isie cefnogi hi gymaint â ti'n gallu a dyw hi heb ddewis bod yn sâl.
"Mae pobl sydd efo Mam sy'n iach - maen nhw'n gallu byw bywyd nhw heb boeni gymaint falle â fi a 'mrawd i achos ni'n gwybod bod pethe am fynd o ddrwg i waeth.
"Mae pobl fel arfer yn mynd yn ôl i ofalu am eu rhieni nhw pan maen nhw'n eu 80au neu 90au ond rwy'n 'neud hynna nawr."

Guto'n chwarae rygbi
Cefnogaeth arlein
Un o bleserau Guto a'i fam yw mynd am baned a chacen gyda'i gilydd, ac yn ôl Guto, mae ei fam "yn esiampl dda iawn o gadw'n bositif" ac mae hynny'n ei ysbrydoli drwy'r cyfnodau tywyll.
"Mae Mam yn hapus le bynnag mae'n mynd. Felly os wyt ti'n methu bod yn positif tra bod person sy'n diodde lot yn fwy yn gallu bod - wel - might as well give up!"
Yr hyn sy'n codi calon Guto yw gweld ymateb ei ffrindiau a'r gymuned leol pan mae'n rhannu fidios a lluniau ohono ef a'i fam ar y cyfryngau cymdeithasol.
"S'mo Mam ar y rhwydweithiau cymdeithasol felly s'mo hi byth 'di cael y profiad yna o bobl yn hoffi fidio ti, gadael sylwad a stwff felly pan i fi'n rhannu fidios a lluniau o Mam mae wastad lot o gefnogaeth.
"Mae'n neis gallu dangos iddi hi bod pobl yma'n cefnogi ac yn hapus i rannu cariad. Dyw e ddim byd i 'neud a dangos i bawb hwn yw bywyd Mam – fi'n eu rhannu nhw fel bo' fi'n gallu cal bach o gefnogaeth a chael bach o dopamine hit i Mam."

Mynd am ddished
Amour & Mynydd
Roedd Guto'n un o'r cystadleuwyr ar y gyfres ddetio Amour & Mynydd ar S4C yn gynharach eleni.
Pan siaradodd Guto am ei fam ar y gyfres, dangosodd Guto'r clip i Gaynor cyn i'r rhaglen gael ei darlledu:
"Dyna'r unig glip o'n i'n becso byti achos do'n i ddim moyn iddo fe ddod mas fel sob story - 'na beth i ni'n casau fwya' fel teulu.
"Nath Mam dorri lawr yn watsiad e. O'ni 'di mynd eitha emosiynol fyd – gafon ni foment bach neis."

Guto ar Amour & Mynydd
Sul y Mamau
Bydd Guto'n treulio Sul y Mamau eleni ar ei wyliau'n Hong Kong, "ac mae'n haeddu mynd i drafeili" yn ôl Gaynor sy'n gobeithio am FaceTime ar y diwrnod.
Dyw Sul y Mamau ddim yn ddiwrnod unigryw i Guto a Gaynor, sy'n gwerthfawrogi ei gilydd bob dydd:
"Ry'n ni'n gwneud lot â'n gilydd ar ddyddiau Sul p'run bynnag. Os bydde ni adre bydden i'n cwcan cinio dydd Sul i Mam neu'n mynd â hi mas am ddished i Crwst yn y bore a mynd mas am wâc yn y prynhawn.
"Ond mae cyflwr Mam wedi gwneud i fi werthfawrogi fy amser gyda hi lot yn fwy.
"Ac oni bai bo' fi a fy mrawd wedi cael y magwraeth dda yna ganddi hi, falle bydde ni ddim y bechgyn i ni heddi' a mor ofalgar ohoni hi.
"Ni jest yn talu nôl iddi. Fydden i heb allu gofyn am fam well."

Guto'n mynd a'i fam a Gus y ci am dro
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2021