Anturiaethwr o'r gogledd yn cwblhau taith Madagascar
- Cyhoeddwyd

Mae anturiaethwr o ogledd Cymru wedi cwblhau ei nod o gerdded hyd Madagascar - y person cyntaf i wneud hynny.
Fe wnaeth Ash Dykes o Fae Colwyn hefyd ddringo wyth mynydd ucha'r wlad ar ei daith o'r de i ogledd yr ynys.
Fe gymrodd hi 155 o ddiwrnodau i'r gŵr 24 oed gwblhau'r siwrne 1,600 milltir, ddaeth i ben fore Llun.
"Mae hi wedi bod yn daith anhygoel ac mae hi wedi bod yn fraint cael y profiad yma o Madagascar," meddai.
Doedd hi ddim yn siwrne hawdd i Mr Dykes, a bu'n rhaid iddo dreulio pum niwrnod yn yr ysbyty wedi iddo gael ymateb drwg i frathiad gan bry cop.
"Heb os, dyma'r her anoddaf i mi ei wneud," ychwanegodd. "Ar adegau, roedd hi'n anhygoel o anodd, felly ro'n i'n eithaf emosiynol yn cyrraedd y llinell derfyn."

