Fietnam trwy lygaid Cymro
- Cyhoeddwyd

Philip Jones Griffiths
Roedd o yn cael ei ystyried yn un o ffotograffwyr gorau ei genhedlaeth. Ar 28 Chwefror bydd S4C yn dathlu cyfraniad y diweddar Philip Jones Griffiths i'w grefft.
Mae'r gŵr o Rhuddlan yn Sir Ddinbych yn cael ei gofio yn bennaf am ei waith yn ystod Rhyfel Fietnam. Trwy garedigrwydd y Llyfrgell Genedlaethol ac asiantaeth ffotograffaieth Magnum Photos cafodd Cymru Fyw gipolwg ar ei waith.
RHYBUDD: Gall rhai o'r delweddau isod achosi loes


Milwr Americanaidd yn ninas hynafol Hue

Methodd byddin America â dinistrio llwybr Ho Chi Minh

Milwyr Americanaidd yng Ngwm Ashau

Ymgeledd i filwr sydd wedi ei anafu

Milwr Americanaidd yn arestio bachgen ifanc ger Saigon

Plant ar faes y gad

Teulu yn ffoi yn ystod brwydr Saigon 1968

Milwyr yn llenwi eu fflasgiau wrth i'r glaw bistyllio

Milwr yn cadw golwg yn ystod brwydr Saigon

Yng ngwres y frwydr...

Y "Teigr bach". Roedd 'na honiadau ei fod wedi lladd ei fam a'i athrawes

Claf arall lleol gydag anafiadau drwg ar ôl ymosodiad

Brawd yn darganfod corff ei chwaer, wedi ymosodiad gan hofrennydd Americanaidd

Y ffotograffydd yn gweithio gyda'i luniau
