Dug a Duges Caergrawnt yn dychwelyd i Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
The Duke and Duchess of Cambridge during the paradeFfynhonnell y llun, PA

Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi ymweld â safle'r Awyrlu Brenhinol yn Y Fali, Ynys Môn, er mwyn mynychu parêd diddymu'r gwasanaeth chwilio ac achub.

Cyrhaeddodd y cwpl fore ddydd Iau ynghyd â tua 300 o westeion eraill.

Mae'r dathliad yn anrhydeddu diwedd cyfnod o dros 75 mlynedd o weithrediadau chwilio ac achub gan yr awyrlu ar y safle.

Ffynhonnell y llun, PA

Bydd y digwyddiadau yn coffáu'r gwasanaeth ers ei sefydlu, ac yn gyfle i gyn-aelodau'r tîm, pobl a theuluoedd rhai a gafodd eu hachub, i dalu teyrnged i waith yr awyrlu.

Cafodd y gwasanaeth chwilio ei ffurfio yn 1941 yn dilyn Brwydr Prydain yn yr Ail Ryfel Byd.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, symudodd y ganolfan chwilio ac achub o'r safle yn Y Fali, lle'r oedd wedi ei leoli ers 1955, i Faes Awyr Caernarfon wrth i gwmni Bristow wneud y gwaith yn dilyn preifateiddio'r gwasanaeth.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd William yn beilot ar yr hofrenydd Wessex - a oedd yn cael eu defnyddio gan y gwasanaeth

Bu'r Dug a'r Dduges yn byw ar Ynys Môn am dair blynedd pan oedd y Tywysog William yn gweithio fel peilot hofrennydd gyda'r gwasanaeth.

Yn ystod y cyfnod hwn, cymerodd William ran mewn 156 o ymarferion, ac fe achubodd 149 o bobl.