Ffrae am newid statws ysgol ddwyieithog yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae yn datblygu yn ardal Llanelli ynglŷn â bwriad y cyngor sir i newid statws ysgol gynradd o un ddwyieithog i un cyfrwng Cymraeg.
Nod y cyngor yw gweld cynnydd mewn dwyieithrwydd yn Llangennech ond mae rhai o'r rheini'n anhapus.
Dywedodd Michaela Beddows, mam i bedwar, nad yw hi'n wrth-Gymraeg ond byddai'r newid yn golygu y byddai'n rhaid i blant sy'n dymuno addysg cyfrwng Saesneg deithio o'r pentref i ysgolion cyfagos.
Ond yn ôl y cyngor, mae'r newidiadau dan sylw'n rhan o'r broses ymgynghori, ac nid oes penderfyniadau terfynol wedi'u gwneud.
Yn ôl Ms Beddows mae 181 eisoes wedi arwyddo ffurflen ar-lein yn gwrthwynebu newid statws yr ysgol.
Bwriad y sir yw uno ysgol fabandod ac ysgol gynradd Llangennech, a sefydlu un ysgol cyfrwng Cymraeg i blant 3-11 oed, gydag un corff llywodraethol.
'Gorfod gadael'
Dywed Ms Beddows y bydd hyn yn golygu na fydd addysg cyfrwng Saesneg ar gael yn y pentref ar gyrion Llanelli o Ionawr 2017.
"O ganlyniad bydd y plant sy'n am gael addysg cyfrwng Saesneg yn gorfod gadael y pentref," meddai.
"Pam cymryd hawl rhieni i ddewis, pam eu gorfodi i adael y gymuned er mwyn addysgu eu plant, a hynny tra bod modd hyrwyddo'r Gymraeg drwy gynnig gwersi Cymraeg ychwanegol?"
Mae addysg cyfrwng Saesneg ar gael ym mhentref Bryn, llai na dwy filltir o Langennech.
Dim penderfyniad eto
Dywed y cyngor bod y newidiadau dan sylw yn rhan o'r broses ymgynghori, ac nad oes "unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud".
"Mae croeso i bob barn a bydd y rhain yn cael eu hystyried cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud," meddai llefarydd.
Ar hyn o bryd mae Ysgol Llangennech ar ddau safle ar wahân, un i blant adran fabanod a'r llall ar gyfer y plant iau.
Mae dwy ffrwd yn y ddwy ysgol - un cyfrwng Cymraeg a'r llall yn un cyfrwng Saesneg.
Y nod sy'n cael ei ffafrio gan swyddogion addysg y sir yw sefydlu un ysgol 3-11 oed a bod honno'n ysgol cyfrwng Cymraeg.
Mae'r newidiadau yn rhan o broses ymgynghori, a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 11 Mawrth.
'Cynyddu dwyieithrwydd'
"Byddai hyn yn cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a bydd yn sicrhau fod dwyieithrwydd yn cynyddu yn ardal Llangennech," meddai adroddiad sydd wedi ei baratoi gan swyddogion addysg.
Ar hyn o bryd mae 216 o ddisgyblion yn yr ysgol fabanod a 230 yn yr ysgol gynradd.
Yn 2010, yn ôl adroddiad Estyn roedd 54% o blant yr ysgol iau yn siarad Cymraeg i lefel iaith gyntaf, ond roedd 87% o'r plant yn dod o gartrefi be mai Saesneg oedd y brif iaith.
Dywedodd swyddogion addysg y byddai sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn sicrhau "y bydd pob plentyn yn dod yn rhugl yn y Gymraeg ac yn Saesneg".
Y nod yw cyflwyno'r newidiadau ym Medi 2017, ond byddai'r rhai sydd eisoes wedi dechrau yn ffrwd Saesneg yn parhau yn y ffrwd yn ystod eu cyfnod cynradd.