Deddf teithio 'ddim yn cyrraedd ei llawn botensial'

  • Cyhoeddwyd
Beicio

Dyw deddf sy'n annog pobl i gerdded neu feicio ddim yn cyrraedd ei llawn botensial, meddai grŵp o Aelodau Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes yn dweud bod diffyg cyllid ac arweinyddiaeth yn rhwystro'r Ddeddf Teithio Llesol rhag gwireddu ei huchelgais.

Mae'r aelodau hefyd yn cyhuddo ymrwymiad gweinidogion iddi o "bylu".

Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddan nhw'n cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer teithio llesol yn fuan.

Rhaid i gynghorau lleol ddarparu llwybrau ac ystyried beicwyr a cherddwyr wrth gynllunio ffyrdd a rheilffyrdd newydd, meddai'r ddeddf.

Fodd bynnag, dim ond £300,000 o arian newydd oedd ar gael ar gyfer mapiau, meddai'r pwyllgor.

Graham
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen "newid y diwylliant", meddai William Graham

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, William Graham, eu bod yn "cymeradwyo uchelgais y ddeddf".

"Dywedodd llawer o bobl a sefydliadau wrthym y bu llwyddiannau mawr ar y dechrau ond bod cryn rwystredigaeth gan nad yw potensial llawn y ddeddf yn cael ei wireddu," meddai.

"Mae'r pwyllgor yn pryderu a oes digon o arian ac adnoddau ar gael i gefnogi'r ddeddf. Roeddem yn teimlo bod hyrwyddo'r agenda teithio llesol yn allweddol er mwyn newid diwylliant.

"Rydym yn galw am ymgyrch hyrwyddo genedlaethol sy'n dangos buddiannau teithio llesol, yn enwedig targedu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cymryd rhan."

'Deddf bwysig'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "darparu £14m y flwyddyn ar gyfer isadeiledd teithio llesol".

Ychwanegodd: "Rydym yn credu ei fod yn bwysig bod y ffynonellau cyllid yma yn amrywiol a bod ystyriaeth ar gyfer teithio llesol yn dod yn arferiad o adeiladu a gwella prosiectau - ddim yn rhywbeth sydd wedi ei ychwanegu gyda chostau ychwanegol.

"Rydym wedi ymrwymo i godi'r ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r ddeddf bwysig yma drwy nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys cynnal digwyddiadau teithio llesol gyda grwpiau gwahanol."