Curo canser yn 19

  • Cyhoeddwyd
ffrindia megan
Disgrifiad o’r llun,

Megan (ar y dde) yn mwynhau ymweliad ysbyty gan ei ffrindiau

Ychydig fisoedd yn ôl, bu Cymru Fyw yn trin a thrafod profiadau merch o Ben Llŷn oedd yn dioddef o ganser - a hithau ond yn ddeunaw oed.

Ond llai na naw mis ers iddi gael gwybod fod ganddi Hodgkin Lymphoma, mae Megan Davies wedi derbyn newyddion da iawn.

"Ges i'r all-clear wythnos diwetha'," meddai. "Mae'n briliant."

Roedd Megan, o Bwllheli, ar fin gorffen ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor pan gafodd wybod ei bod yn dioddef o'r salwch fis Mehefin diwethaf.

Ac ar ôl chwe mis o gemotherapi caled, daeth y newyddion wythnos diwetha' fod Megan bellach yn glir o ganser.

"Mi fyddai'n mynd am check-ups bob rhyw dri mis rŵan a bydd rheiny'n digwydd yn llai aml wedyn gobeithio," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Y llun cyntaf o Megan (canol) ar ôl ei sesiwn cemotherapi olaf - a'i dwy ffrind Elin a Nel

Cysur y blog

Roedd Megan wedi teimlo'r angen i sgwennu am ei phrofiad, a thrwy hynny, dechreuodd sgwennu blog ar-lein.

Erbyn hyn, mae'r blog - 'Meg's Journey', dolen allanol - wedi cael mwy na 73,000 o hits, gyda miloedd o ddilynwyr rheolaidd.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw 'nôl ym mis Rhagfyr, dywedodd Megan: "Efo'r blog dwi'n trio - achos bo' fi'n bod mor onest - newid sut ma' pobl yn ymdrin â'r peth.

"Ma' pobl ofn siarad am ganser ac yn ei gysylltu fo efo marwolaeth. Ond ma' pobl yn byw.

"Dwi ond yn gobeithio fod y blog yma'n helpu pobl mewn rhyw ffor', ac yn g'neud hi'n haws i bobl siarad yn agorad am y peth."

Yn y blog, mae Megan wedi cyffwrdd ar sgil-effeithiau'r driniaeth, gan gynnwys colli ei gwallt, a chael gwybod bod yn rhaid iddi gael triniaeth IVF er mwyn rhoi cyfle iddi gael plant yn y dyfodol.

Thailand a'r brifysgol

Ond tydi'r newyddion da ddim am rwystro Megan rhag cario 'mlaen i gyfrannu i'r peth wnaeth fod yn gymaint o gefn iddi yn ystod ei thriniaeth.

"Mi fydda i'n trio fy ngora' [i gadw'r blog i fynd] er mwyn gallu helpu pobl sy'n mynd trwy'r un fath â fi - i fynd trwy'r recovery," meddai.

"Mae'r blog wedi fy helpu i lot achos mae'n rhoi gymaint o hwb i fi i weld ei fod o'n gallu helpu pobl eraill."

Felly beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig i Megan?

"Mi fydda i'n trio mynd yn ôl i weithio yn yr wythnosau nesa' 'ma a dwi isio mynd i drafeilio yn yr haf - ella i Thailand - cyn mynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd fis Medi."

Disgrifiad o’r llun,

Elin a Megan (dde) yn rhannu jôc

Am fwy o hanes Megan, ewch i'r blog ar mwgsi.com, dolen allanol