A55: Gyrwyr 'yn cwyno gormod'

  • Cyhoeddwyd
A55

Mae dyn fu'n gyfrifol am yr A55 am flynyddoedd yn dweud nad ydi'r tagfeydd yn ddim i'w cymharu efo lonydd ardaloedd eraill, a bod gyrwyr yn cwyno heb fod angen.

Ers misoedd, mae'r ffordd ddeuol 87 milltir o Gaergybi i Gaer wedi dod dan y lach. Mae cwynion am dagfeydd oherwydd gwaith ar dwneli Penmaenmawr a Chonwy, llifogydd wnaeth gau'r lon ar ddydd San Steffan a chwynion parhaus am Bont Britannia.

Ond dywed Hefin Lloyd Jones, rheolwr yr A55 i Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru am chwe blynedd, bod gyrwyr yn y gogledd yn ffodus o'u cymharu â rhannau eraill o Brydain.

Dywedodd: "Faswn i'n deud bod y ffordd wedi cael penawdau drwg erioed - yn hollol annheg faswn i'n deud. Mae eisiau cofio beth ydi'r ffordd - ffordd ddeuol ydi hi.

"Unrhyw waith ffordd, unrhyw beth sy'n arafu rhywun, mae'n hawdd iawn cwyno. Yn bersonol dwi ddim yn meddwl bod o cynddrwg a hynny.

"I gymharu efo rhywun sy'n teithio ar yr M6, M56, M25 neu unrhyw ffordd yn Lloegr dydi'r A55 ddim byd i gymharu. Ffordd ddeuol aml bwrpas ydi nid traffordd.

"Peth hawdd iawn i wneud ydi cwyno - wrach bod pobol ddim yn fodlon gwario 5 munud, 10 munud, chwarter awr mwy i deithio...maen nhw'n disgwyl mynd syth drwodd wrach."

Un sy'n defnyddio'r ffordd yn aml ydi Tim Fraser Jones, sy'n gyrru lorïau i gwmni cludo Delsol. Mae eu pencadlys nhw 5 milltir i ffwrdd o'r A55, yn ardal Caernarfon, ac maen nhw'n cyflogi 120 o bobol.

Dywed y cwmni eu bod wedi colli deg mil o bunnoedd yr wythnos yn ystod gwaith ffordd yn ardal Penmaenmawr a Chonwy llynedd - gwaith fu'n mynd ymlaen am ddau fis.

Dywedodd Tim Fraser Jones: "Os da chi'n mynd fel malwan am hanner awr - tydi'r lori ddim yn neud pres, tydi'r dreifar ddim yn neud pres ac mae rhaid i rywun dalu.

"Dyna pam mae o yn effeithio Delsol a bob un cwmni sydd efo lorïau.

"Mae pobol yn deud 'be di hanner awr?' - wel lot os ydach chi'n mynd dwywaith y dydd, pum gwaith yr wythnos...mae o'n mynd yn lot."

Bydd Manylu - Trafferthion yr A55 yn cael ei darlledu am 12:30 dydd Iau, 25 Chwefror ar BBC Radio Cymru ac ar iPlayer.