Cymro i gynrychioli Prydain yn yr Eurovision
- Cyhoeddwyd

Mae Joe Woolford o Ruthun wedi ei ddewis i gynrychioli Prydain fel rhan o ddeuawd yng nghystadleuaeth yr Eurovision eleni.
Mi fydd Joe a Jake Shakeshaft, o Stoke-on-Trent, yn canu cân o'r enw 'You're Not Alone."
Mi ddaeth y ddau'n ffrindiau wrth gystadlu yn erbyn ei gilydd ar raglen The Voice, fel yr eglurodd Joe wrth Dylan Jones ar ei raglen yn gynharach yr wythnos hon:
"Ers y gyfres The Voice, dwi di bod yn gweithio efo Jake. Da' ni 'di bod yn gigio.
"Da' ni di dod yn ffrindiau da, so o'n i'n meddwl bod o'n syniad i ni gychwyn sgwennu efo'n gilydd a wedyn, gathon ni manager efo'n gilydd, ac mae pethe di symud ymlaen yn gyflym. Dwi'n rili hapus ar y funud.
Bydd Joe a Jake yn cynrhychioli Prydain yn yr Eurovision ym mhrifddinas Sweden, Stockholm ym mis Mai.

Daeth Joe a Jake yn ffrindiau pan yn cystadlu'n erbyn ei gilydd ar raglen The Voice.