'Dim ond 18%' eisiau llai o ASau Cymreig, yn ôl arolwg

  • Cyhoeddwyd
ty'r cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Gymru golli dros chwarter ei Haelodau Seneddol erbyn 2020

Dim ond ychydig llai na chwarter pleidleiswyr Cymru sy'n cefnogi cynllun Llywodraeth y DU i ostwng nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig, yn ôl arolwg barn i BBC Cymru.

Mae'n awgrymu mai 18% sydd o blaid dod â'r nifer i lawr o 40 i 29, gyda 52% yn credu bod y nifer presennol "tua'r ffigwr cywir".

Dangosodd yr arolwg hefyd bod 28% o bleidleiswyr eisiau gweld mwy na 40 o ASau o Gymru.

Mae'r ffigyrau yn rhan o arolwg barn blynyddol Dydd Gŵyl Dewi BBC Cymru.

Bydd nifer yr ASau Cymreig yn lleihau yn yr etholiad cyffredinol nesa' fel rhan o gynllun y llywodraeth i gwtogi nifer yr etholaethau o 650 i 600.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Davies yn bryderus am effaith y cynllun ar etholaethau gwledig

Fe all un Ceidwadwr o Gymru weld ei etholaeth yn diflannu yn 2020, sef AS Maldwyn, Glyn Davies.

Mae'n credu bod Cymru'n anfon gormod o aelodau dros Glawdd Offa i San Steffan, ond yn pryderu am effaith y cynllun ar gymunedau yng nghefn gwlad.

"Dwi yn poeni llawer am beth sy'n mynd i ddigwydd," meddai Mr Davies. "Bydd ardaloedd gwledig yn colli allan, dwi'n disgwyl hynny i ddigwydd yng Nghymru mwy nag unlle arall.

"Mae'r bil eisiau'r un nifer o etholwyr. Does dim hyblygrwydd i'r Comisiynwyr i ddod â rhywbeth call ymlaen."

'Cynigion cychwynnol'

Daw'r newidiadau o ganlyniad i reolau sy'n dweud y dylai etholaethau, yn fras, gael yr un nifer o bleidleiswyr.

Ar hyn o bryd mae gan etholaethau Cymru lai ar hyn o bryd nag etholaethau yn Lloegr.

Bydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cyhoeddi "cynigion cychwynnol" ar gyfer etholaethau Cymru yn ddiweddarach eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, yn dymuno gweld mwy o ACau ym Mae Caerdydd

Rhagor o Aelodau Cynulliad?

Roedd 48% o bleidleiswyr yn yr arolwg o'r farn bod y nifer presennol o Aelodau Cynulliad, 60, "tua'r ffigwr cywir", gyda 23% o blaid llai.

Mae Llywydd y Cynulliad wedi galw ar gynyddu'r nifer i 80 o ganlyniad i'r pwerau ychwanegol fydd yn dod i Fae Caerdydd. Roedd 13% yn cytuno â Rosemary Butler, a 7% o blaid mwy na 80.

Dywedodd y Dr Elin Royles, o adran wleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth:

"Mae dadl gref dros gynyddu'r niferoedd er mwyn adlewyrchu'r twf mewn grymoedd a'r angen am scriwtini cadarn er mwyn gallu deddfu'n dda yng Nghymru.

"Ac wrth gwrs fod hyn yn mynd law yn llaw gyda lleihad mewn niferoedd Aelodau Seneddol."

Bydd mwy o fanylion am ganlyniadau'r arolwg barn ar raglen Y Sgwrs ar S4C am 21:30, nos Fercher 2 Mawrth.