Dirwy i ddynes am bwyso rhif ei char yn anghywir

  • Cyhoeddwyd
dirwyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Laura Ingarfield a'i phartner Paul Hilton gyda'r ddirwy

Cafodd dynes ddirwy o £100 gan wardeiniaid parcio am iddi roi'r llythyren 'O' yn lle'r ffigwr '0' wrth gofrestru ei char.

Roedd Laura Ingarfield, 50, ar ei ffordd i'r sinema yn Aberafan gyda'i phartner pan wnaeth ddeialu rhif cofrestru ei char yn anghywir yn y peiriant parcio.

Ond roedd wedi gwylltio pan ddaeth hi'n ôl a gweld dirwy ar ei char - am ei bod wedi nodi CPO6 TVD yn lle CP06 TVD.

Aeth at y cwmni parcio, Minster Baywatch, i sôn am ei chamgymeriad ond cafodd ei hapêl ei wrthod

"Mae'n warthus," meddai. "Does dim ffordd 'mod i'n talu'r ddirwy 'na.

"Camgymeriad syml oedd e... roedden ni mewn brys achos ein bod ni braidd yn hwyr i weld y ffilm."

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Minster Baywatch eu bod wedi "ymddwyn yn briodol drwy gydol y broses".