Ceidwadwyr Cymreig: Treblu gofal plant am ddim

  • Cyhoeddwyd
gofal plantFfynhonnell y llun, PA

Y Ceidwadwyr yw'r blaid ddiweddara yng Nghymru i addo treblu gofal plant am ddim o 10 awr i 30 awr yr wythnos petawn nhw'n ennill etholiad y Cynulliad.

Mae'r blaid Lafur a Phlaid Cymru eisoes wedi gwneud addewidion tebyg, gyda Llafur yn addo cynyddu gofal plant am ddim i 48 wythnos y flwyddyn, a Phlaid Cymru i 39 wythnos y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg, Angela Burns, y byddai'n help i rieni ddychwelyd i'r gwaith a rhoi hwb i'r economi.

Dyw'r Ceidwadwyr ddim wedi dweud faint o wythnosau'r flwyddyn fyddai'n rhan o'r addewid. Dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim eto wedi cyhoeddi cynllun.

'Creu economi gryfach'

"Ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn i rieni sy'n gweithio fanteisio ar 10 awr o ofal plant am ddim, yn enwedig gan fod angen i'r ddarpariaeth fod yno dros gyfnod o bum niwrnod," dywedodd Ms Burns.

"Bydd Ceidwadwyr Cymru'n gweithio tuag at dreblu'r gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio, er mwyn eu helpu i ddychwelyd i'r gwaith, darparu ar gyfer eu teuluoedd a chreu economi gryfach."

Mae'r Ceidwadwyr yn honni fod Cymru mewn perygl o ddisgyn y tu ôl i Loegr, lle mae Llywodraeth y DU wedi addo dyblu gofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair blwydd oed, o 15 awr i 30 awr yr wythnos.

Ar hyn o bryd, mae hawl ganddyn nhw i 570 awr o addysg gynnar neu ofal plant am ddim bob blwyddyn, sydd fel arfer yn cael ei gymryd fel 15 awr yr wythnos am 38 wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Burns yn dweud fod Llywodraeth Geidwadol y DU yn arwain y ffordd ar ofal plant am ddim.

Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud y bydd yr addewid yn dod i rym yn 2017.

Serch hynny, nododd adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru ar gynyddu gofal plant am ddim na fyddai'n gwneud llawer o wahaniaeth o ran lleihau tlodi na chael mwy o fenywod i'r byd gwaith.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn bwriadu datgelu eu polisi gofal plant yn ddiweddarach ym mis Mawrth. Mae cais hefyd wedi ei wneud am sylw gan UKIP.

Yn y cyfamser, mae arolwg o ddarparwyr gofal plant yng Nghymru yn awgrymu fod llawer yn cael trafferth delio â chostau cynyddol a gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael gofal.

'Problemau gwirioneddol'

Dywedodd bron i chwarter y rhai wnaeth ymateb i arolwg blynyddol Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Dyddiol mai ychydig iawn o hyder oedd ganddyn nhw yn nyfodol eu busnesau.

Dywedodd prif weithredwr y gymdeithas, Purnima Tanuku, y byddai'r cyflog byw newydd yn cynyddu costau staff 13% eleni, a 35% erbyn 2019.

"Mae hyn, ynghyd â thanwariant mawr ar lefydd am ddim, a'r gostyngiad yn nifer y plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth, yn achosi problemau gwirioneddol," dywedodd.

Cymerodd 115 o ofalwyr o Gymru ran yn yr arolwg, sy'n un o bob pump o'r gofalwyr dydd sy'n gweithio yma.