Tipyn o dderyn
- Cyhoeddwyd

Ydych chi'n 'nabod eich adar?
Os oes ganddoch chi awr i sbario y penwythnos yma Ionawr 28-30 mae Cymdeithas Gwarchod Adar RSPB Cymru eisiau eich help chi.
Fel rhan o'u hymgyrch Gwylio Adar yr Ardd, dolen allanol, mae'r elusen yn gofyn i chi dreulio awr bore Sadwrn neu fore Sul i weld pa adar sydd yn eich gerddi.
Y nod ydy helpu RSPB Cymru i ddeall beth sy'n digwydd i hoff adar gerddi Cymru yn y gaeaf.
Cyn i chi ymestyn am y sbiendrych ac agor y drws cefn, beth am brofi'ch gwybodaeth o'n ffrindiau pluog?


Pa un yw'r Pâl?

Dyma un hawdd, pa un yw Glas y Dorlan?

Nawr, rhaglen deledu arall o'r '80au - pa un yw'r Bilidowcar?

Pa un o'r rhain yw Pioden y Môr?

Lluniau gan Eifion Griffiths ac Alun Williams
Pa un o'r rhain yw Melyn yr Eithin?

Lluniau gan Gareth Pritchard ac Eifion Griffiths
Ac i orffen, fedrwch chi adnabod y Ji-Binc?