Cartref yn 'ddiwerth' ers tirlithriad Cwmtyleri

Leslie Morgan
Disgrifiad o’r llun,

"Os daw [y tirlithriad] ar yr amser iawn bydd bywyd yn cael ei golli," medd Leslie Morgan

  • Cyhoeddwyd

Treuliodd Leslie Morgan a'i wraig, Dianne, flynyddoedd yn adeiladu cartref ym mhentref Cwmtyleri ym Mlaenau Gwent.

Ond, doedden nhw ddim yn gwybod bod yr adeilad yn cefnu ar domen lo - twmpath mawr o wastraff wedi ei adael ers dyddiau'r mwyngloddio yno.

Fe wnaeth y domen ddymchwel y llynedd ac fe aeth 350 tunnell o wastraff trwy'r pentref a chladdu buarth Mr Morgan.

Cymerodd dri diwrnod iddo glirio'r llanast a dywedodd fod ganddyn nhw ofn i'r un peth ddigwydd eto.

"Rydyn ni'n ofnus, mae hi fel afon yma bob tro mae hi'n bwrw glaw. Mae fy ngwraig ar bigau'r drain, dydy hi ddim yn cysgu," meddai.

Yr eiddo
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tirlithriad wedi tynnu'r pleser allan o fyw yn ei gartref, yn ôl Leslie Morgan

Flwyddyn ar ôl y tirlithriad, dywedodd Mr Morgan fod y ddau methu mwynhau'r cartref yr oeddent wedi gwario eu harian a'u hamser arno.

"Mae wedi tynnu'r pleser allan o fyw yma ac mae e wedi lleihau gwerth ein cartref, mae wedi mynd yn ddiwerth."

Cafodd tua 40 o gartrefi eu gwagio pan achosodd Storm Bert i'r afon o wastraff greu dinistr yn y pentref.

Ar y pryd, disgrifiodd pentrefwyr slyri yn cario "coed a cherrig mawr" ac adeiladau wedi'u gadael yn ddwfn mewn mwd.

Dywedodd Brian Preece, oedd yn byw yno ers blynyddoedd, fod ei dŷ wedi cael difrod difrifol gan ddŵr yn y tirlithriad.

"Edrychais allan o'r ffenest ac roedd y dŵr yn llifo ar waelod y silff."

'Bydd bywyd yn cael ei golli'

Dywedodd Mr Preece, sy'n 77 oed, fod taliadau yswiriant ei gymdogion wedi mynd trwy'r to, er gwaethaf gwerth eu cartrefi yn plymio.

Mae'n ofni am ddiogelwch ei wyrion ac mae wedi eu gwahardd rhag chwarae yn yr ardd oherwydd y domen.

"Os daw [tirlithriad], bydd yn bwrw'r tŷ drosodd yn syth," meddai. "Os daw ar yr amser iawn bydd bywyd yn cael ei golli."

Y llanast
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tua 40 o gartrefi eu gwagio pan achosodd Storm Bert i'r afon o wastraff greu dinistr yn y pentref

Am ddegawdau, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael o ran lleoliadau a chyflwr hen domenni glo Cymru.

Ond fe wnaeth tirlithriad yn Rhondda Cynon Taf, bum mlynedd yn ôl, arwain at gyflwyno cofrestr a deddfwriaeth i fonitro hen domenni'r wlad.

Mae tua 2,500 ohonyn nhw wedi cael eu hadnabod ac mae 360 ​​wedi'u dosbarthu fel rhai sydd â'r "potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd".

'Popeth o fewn ein gallu'

Yn ystod ymweliad â Chwmtyleri dywedodd y dirprwy brif weinidog, Huw Irranca-Davies, na allai gadarnhau bod y safle bellach yn ddiogel.

Ond ychwanegodd fod llywodraethau Cymru a'r DU wedi gwario mwy na £220 miliwn ar wneud tomenni glo yn fwy diogel ledled y wlad.

Dywedodd Mr Irranca-Davies nad oedd yn gallu sicrhau bod pob tomen 100% yn saff.

"Gallaf roi cadarnhad i chi ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud y cymunedau hyn yn ddiogel trwy'r buddsoddiad seismig hwn."

Brian Preece
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Preece yn ofni am ddiogelwch ei wyrion oherwydd y domen

Cafodd cyfraith newydd ei phasio yn y Senedd yn gynharach eleni i wella diogelwch tomenni glo.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol y gallai gostio hyd at £600 miliwn i wneud tomenni glo yn ddiogel ledled y wlad.

Yn ddiweddarach, dywedodd pedwar cyngor yng Nghymru wrth y Pwyllgor Materion Cymreig mai dim ond "crafu ar wyneb" yr hyn oedd ei angen oedd yr arian.

Yng Nghwmtyleri, mae draeniau newydd yn cael eu gosod a dywedodd y llywodraeth y byddai hyn yn "helpu i sefydlogi a lleihau'r risg o dirlithriadau ac erydiad yn y dyfodol".

Ond efallai na fydd hynny'n ddigon i berswadio rhai trigolion i aros.

Mae Mr Morgan a'i wraig yn ystyried gadael y cartref y gwnaethon nhw dreulio miloedd yn ei berffeithio.

Dywedodd Mr Morgan mai'r unig ffordd y byddai'n teimlo'n ddiogel fyddai cael gwared ar y domen yn llwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig