Sefydlu traeth di-fwg cyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
traeth little haven

Fe fydd traeth Little Haven yn Sir Benfro yn cael ei ddynodi'n draeth di-fwg cyntaf Cymru ddydd Mercher.

Mae'r gwaharddiad gwirfoddol, sydd hefyd yn cynnwys e-sigarennaun yn dod i rym ar Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu, ac yn weithredol am gyfnod prawf o flwyddyn.

Wrth gyhoeddi'r gwaharddiad dywedodd y Cynghorydd Huw George o Gyngor Sir Benfro: "Rydym yn cymryd iechyd y cyhoeddi o ddifri. Rydym am wneud popeth y gallwn ni i warchod ein plant rhag ysmygu ac i hybu iechyd i bawb."

Bydd 35 o ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberllydan yn rhan o lansio'r ymgyrch - mae hynny'n cyfateb i nifer y plant sy'n dechrau ysmygu yng Nghymru bob dydd yn ôl amcangyfrifon.

Dangosodd arolwg gan YouGov ar ran y mudiad gwrth ysmygu ASH Cymru yn 2015 bod mwyafrif oedolion Cymru yn credu y dylid gwahardd ysmygu mewn mannau cymunedol fel parciau a thraethau.

Pwysleisiodd y Cynghorydd George bod y gwaharddiad yn un gwirfoddol ac na fyddai cosb i bobl sy'n ei anwybyddu.

Eglurodd: "Fe fydd arwyddion priodol i hysbysu pobl am y gwaharddiad. Efallai y bydd rhywun yn mynd at berson sy'n ysmygu a gofyn iddyn nhw i beidio."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd arwyddion fel hyn yn cael eu gosod o amgylch y traeth

Daeth cefnogaeth i'r cynllun gan brif swyddog meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Teresa Owen, a'r Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol (CIEH).

Dywedodd eu cyfarwyddwr nhw, Julie Barratt: "Dylai traethau godidog Cymru gael eu trin fel unrhyw fan cyhoeddus arall ac rydym yn cefnogi ymgyrch Cyngor Sir Benfro i'r carn.

"Dylai mynd i'r traeth fod yn llawn o fwyta hufen iâ a mwynhau'r heulwen nid anadlu mwg pobl eraill.

"Gobeithio bydd ysmygwyr sy'n ymweld â Little Haven yn ysmygu yn rhywle arall."